Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i neges homoffobig ar wefan Twitter oedd yn sarhau’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens.

Cafodd y neges ei phostio ar dudalen @edrydJames, ond mae’r cyfri bellach wedi cael ei ddileu ar ôl i nifer sylweddol o bobol dynnu sylw’r heddlu at y neges.

Ar eu tudalen Twitter, dywedodd Heddlu’r De: “Diolch am hysbysu @swpolice am y sylwadau a waned gan @edrydJames, rydym yn ymchwilio i’r mater. Cofion SWP.”

Nigel Owens oedd y dyfarnwr ar gyfer yr ornest rhwng Lloegr a Ffrainc ar gae Twickenham brynhawn ddoe.

Roedd Owens wedi sôn mewn cyfweliad â’r Telegraph ddiwedd yr wythnos ei fod yn disgwyl sylwadau hwyliog, ond nad oedd ei sarhau ar sail ei rywioldeb yn dderbyniol.

Cafodd Owens ei sarhau pan ddyfarnodd yr ornest rhwng Lloegr a Seland Newydd yn Twickenham yn ystod gemau’r hydref y llynedd.

Cafodd dau o bobol eu gwahardd o’r cae am ddwy flynedd, a dirwy o £1,000 yr un.

Daeth y mater hwnnw i sylw’r awdurdodau yn dilyn llythyr gan gefnogwr i bapur newydd y Guardian.