Rosemary Butler
Mae Llywydd y Cynulliad wedi amddiffyn ei phenderfyniad i wrthod cais i saethu rhai o olygfeydd ffilm newydd James Bond yn Siambr y Senedd.

Dywedodd Rosemary Butler bod y “risg” o darfu ar waith y Cynulliad yn “ormod” ond dim ar “chwarae bach” y daeth hi i’r casgliad hwnnw.

Mewn datganiad heddiw, fe wnaeth hi gydnabod bod “llawer o feirniadaeth” wedi bod o’r penderfyniad.

“Pan ofynnir i mi wneud penderfyniad, rhaid i mi bwyso a mesur y ffactorau sy’n ymwneud â phob cais,” meddai.

“Yn yr achos hwn, yn ogystal â chydnabod y manteision posibl, roedd hefyd rhaid ystyried graddfa debygol yr hyn a oedd yn cael ei gynnig a’r effaith debygol ar y Siambr, a hynny o ystyried nifer y bobl a’r offer sy’n rhan o gynhyrchiad o’r math hwn, a’r addasiadau a fyddai wedi cael eu gwneud i’r Siambr.

“Cynigiwyd ardaloedd eraill yn y Senedd, ond gwrthodwyd y rhain.

“Ar y cyfan, roedd y risg i’r Siambr a’r tarfu posibl ar fusnes yn ormod. Fel Llywydd,” meddai, “credaf fod angen diogelu a chynnal prif swyddogaeth Siambr y Senedd yn fwy na dim arall, felly mae’n rhaid trin y defnydd a wneir o’r Siambr yn wahanol i weddill ystâd y Cynulliad.

“Nid yw hyn yn rhywbeth newydd; byddai caniatáu ffilmio o’r fath yn y Siambr wedi golygu newid yr arfer sydd wedi’i arddel ers agor y Senedd.”

Dywedodd hefyd ei bod yn “siomedig” bod y drafodaeth wedi “darlunio’r Cynulliad fel corff nad yw’n agored i wneud busnes gyda diwydiannau creadigol”.

“Rydym wedi caniatáu i nifer o gynyrchiadau dramatig fel Doctor Who, Sherlock, Caerdydd a rhaglen ‘Portrait Artist of the Year’ Sky Arts gael eu ffilmio yma,” meddai Rosemary Butler.

“Rydym yn rhagweithiol wrth chwilio am gynyrchiadau a allai fod â diddordeb mewn lleoli rhywfaint o’u gweithgarwch ar ystâd y Cynulliad.”