Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi mynegi ei siom tros benderfyniad Llywodraeth Cymru i leihau’r cyllid ar gyfer gwersi nofio am ddim yn y sir – gan roi chwe wythnos o rybudd yn unig.

Cafodd y cyngor wybod y bydd yn derbyn £20,000 yn llai i roi gwersi nofio am ddim i bobol ifanc 16 o dan oed a’r rhai dros 60 oed, sy’n golygu y bydd angen codi tâl am y mwyafrif o wersi yn ystod y gwyliau.

Yn ychwanegol i deimlo bod penderfyniad “hwyr” Llywodraeth Cymru yn annheg, mae’r Aelod Cabinet Arweiniol dros Dwristiaeth, Ieuenctid a Hamdden yn pryderu y bydd y penderfyniad yn cael effaith niweidiol ar iechyd trigolion.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid yn flynyddol i bob awdurdod lleol i ddarparu gwersi nofio am ddim ac mae’r swm yn cael ei adolygu yn flynyddol.

‘Annheg’

Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones nad oes gan y cyngor unrhyw ddewis ond cael gwared ar yr holl sesiynau nofio am ddim sy’n ychwanegol at y sesiynau y mae’n ofynnol i’r cyngor ei ddarparu yn barod.

“Rydym yn cydnabod bod rhai awdurdodau yng Nghymru wedi cael llawer mwy o ostyngiadau drwy’r fformiwla, serch hynny, mae bron yn amhosibl i Gyngor flaengynllunio a gwneud lwfansau ar gyfer cyllid pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud mor hwyr, heb lawer o ymgynghori.

“Ar adeg pan mae Cynghorau Cymru o dan bwysau i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen bwysig, mae hyn yn ergyd fawr eto arall, ac yn un y mae’n rhaid i ni ei chyfleu i’r cyhoedd mor hwyr yn y flwyddyn ariannol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i daflu cyllid at iechyd, ond yn y pendraw, bydd torri ar wariant nofio am ddim yn cael effaith hirdymor ar iechyd a lles ein preswylwyr.

“Mae pob awdurdod yng Nghymru wedi teimlo effaith y toriadau cyllid, ond ein prif bryder yw’r diffyg cyfathrebu a rhybudd gan Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno’r newid hanfodol hwn i’r fformiwla ariannu.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y Llywodraeth i bryderon y cyngor.