Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos ei bod hi’n “aeddfed” a derbyn cyfrifoldeb dros godi ei harian ei hun.

Awgrymodd AS Preseli Penfro y byddai, o edrych yn ôl, fod wedi hoffi gweld llywodraeth ‘enfys’ rhwng Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cael ei ffurfio yn y Cynulliad yn 2011, ac y gallai hynny ddigwydd yn 2016.

Ac fe gyfaddefodd Ysgrifennydd Cymru fod ei farn ef ar ddatganoli wedi newid yn llwyr dros y blynyddoedd diwethaf.

Clymblaid?

Wrth roi darlith i’r Sefydliad Materion Cymreig ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Fercher, fe ddywedodd Stephen Crabb y byddai wedi bod yn well i Gymru petai’r pleidiau eraill wedi ceisio’n galetach i gadw Llafur allan o bŵer yng Nghaerdydd.

“O edrych yn ôl, fe allai clymblaid enfys yn y Cynulliad [ar ôl etholiad 2011] fod wedi bod yn beth da i Gymru,” meddai Stephen Crabb.

Awgrymodd y gallai’r posibilrwydd ailgodi ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

“Fe allai’r tair plaid sydd o blaid datganoli – Ceidwadwyr Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru, o bosib, gynnig opsiwn amgen ffres ac effeithiol i’r gafael monopolyddol ar y lefelau llywodraeth yng Nghymru sydd gan y Blaid Lafur.”

Aeddfedu

Dywedodd Stephen Crabb fod ganddo dri uchafbwynt o’i gyfnod fel Ysgrifennydd Cymru – cynhadledd NATO yng Nghasnewydd, trydanu’r rheilffordd yn ne Cymru, a’i gyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi ar bwerau ychwanegol i’r Cynulliad.

Ond fe gyfaddefodd ei fod yn “siomedig” gydag ymateb Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones i’r cyhoeddiad, gan fynnu ei bod hi’n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd mwy o gyfrifoldeb.

Mynnodd hefyd ei fod yn disgwyl o hyd y bydd refferendwm yn cael ei gynnal ar ddatganoli pwerau trethi i Gymru.

“Nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod hi’n llywodraeth aeddfed, yn barod i dderbyn penderfyniadau anodd am godi arian, nid yn unig ei wario,” meddai Stephen Crabb.

“Wrth gyflwyno ‘llawr’ i gyllid Cymru i amddiffyn rhag y ffordd mae fformiwla Barnett yn gweithio i Gymru, rydyn ni wedi ei gwneud hi’n glir ein bod ni’n disgwyl i Lywodraeth Cymru alw refferendwm ar bwerau treth incwm.

“Dyna yw datganoli cyfrifol a dyna yw datganoli go iawn.”

Newid barn

Cyfaddefodd Stephen Crabb ei fod ef ei hun yn arfer bod yn “amheus a gwrthwynebus” i ddatganoli yng Nghymru.

Ond dywedodd fod ei farn wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, gyda fersiwn Saesneg llyfr Hanes Cymru’r diweddar John Davies, a refferendwm yr Alban, ymysg y pethau ddylanwadodd ar ei ffordd o feddwl.

“Fy nghasgliad i o hyn oedd mai datganoli o fewn fframwaith Deyrnas Unedig gryf oedd efallai’r ffordd orau a’r unig ffordd o dawelu’r grymoedd tectonig cystadleuol yma,” ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru.