Y Cynghorydd Aled Davies
Mae Cyngor Ceredigion wedi cael cyngor gan Lywodraeth Cymru i “gymryd camau” yn erbyn cynghorydd o Aberystwyth sydd wedi colli 17 o gyfarfodydd y cyngor llawn yn ystod y 22 mis diwetha’.

Mae’r cynghorydd, Aled Davies, wedi gwrthod gwneud sylw wrth golwg360 y bore yma gan gadarnhau’r hyn yr oedd wedi ei ddweud wrth bapur lleol ynghynt.

Ymhlith y rhesymau yr oedd wedi eu rhoi bryd hynny tros beidio â mynd i gyfarfodydd, roedd y ffaith ei fod yn credu eu bod nhw’n “wastraff amser”.

Roedd papur y Cambrian News wedi cyhoeddi mai dim ond mewn pump cyfarfod llawn o’r cyngor  yr oedd Aled Davies wedi bod – mae’n aelod Annibynnol o’r cyngor ac yn derbyn cyflog o £13,300 y flwyddyn am hynny, wedi bod mewn 5 allan o 22 o gyfarfodydd llawn y cyngor.

‘Dim amser’

“Er fy mod i’n ceisio mynychu’r cyfarfodydd mor aml ag sy’n bosib, rwy’n ei chael hi’n anodd ar adegau gyda ‘ngwaith,” meddai Aled Davies yn ei ddatganiad wrth y papur.

“Mae hi’n haws i aelodau eraill sydd wedi ymddeol i fynd iddyn nhw ond mae fy ngwaith yn ei gwneud yn anodd i mi wneud hynny.

“Ond i ddweud y gwir, weithiau mae’r cyfarfodydd hyn yn wastraff amser llwyr ac mae penderfyniadau wedi cael eu gwneud o flaen llaw beth bynnag.”

Mae cyngor Ceredigion wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn cyngor gan Llywodraeth Cymru i weithredu yn erbyn aelodau sy’n methu â chyflawni eu dyletswyddau.

O fis Mai ymlaen, fe fydd modd i’r cyhoedd weld cofnod o bresenoldeb cynghorwyr Ceredigion am y tro cyntaf.