Hen ysbyty meddwl Dinbych
Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal y bore yma i geisio penderfynu a ddylai Ysbyty Gogledd Cymru, neu hen ysbyty meddwl Dinbych, gael ei drosglwyddo i berchnogaeth Cyngor Sir Ddinbych.
Mae ymchwiliad lleol wedi dechrau ynglŷn â’r ddadl, wedi i berchnogion y safle, Freemont (Denbigh) Limited, herio Gorchymyn Prynu Gorfodol gan Gyngor Sir Ddinbych.
Bydd arolygydd, a benodwyd gan Weinidogion Cymru, yn cynnal y gwrandawiad cyhoeddus yn Amgueddfa Dinbych (yr hen Lys Ynadon).
Mae Graham Boase, Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd yn Sir Ddinbych eisoes wedi dweud fod y cyngor yn “siomedig” gyda’r sefyllfa.
Cefndir
Pleidleisiodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych o blaid y Gorchymyn Prynu Gorfodol ar gyfer y safle ym mis Medi 2013.
Roedd y perchnogion Freemont (Denbigh) Limited wedi methu â chydymffurfio â Hysbysiad Atgyweirio gan y Cyngor, lle’r oedd gofyn iddyn nhw wneud gwaith atgyweirio sylweddol i’r adeiladau.
Ar ôl prynu’r adeilad, mae’r cyngor yn dweud y byddai’n ei drosglwyddo i ofal Ymddiriedolaeth Cadw er mwyn ei adfer.