Fe fydd pobl o bob cwr o’r wlad allan dros y penwythnos i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, gydag amryw o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar hyd a lled y wlad ar gyfer 1 Mawrth.

Dyma ni felly wedi rhoi rhestr at ei gilydd o rai o’r prif wyliau, gorymdeithiau a pharêds o’r gogledd i’r de fydd yn digwydd ddydd Sul i nodi diwrnod nawddsant Cymru.

Cofiwch roi gwybod i ni neu adael sylw os oes digwyddiadau nad ydyn ni’n gwybod amdanyn nhw yn eich ardal leol chi!

Cestyll ar agor AM DDIM

Mynediad am ddim i rai o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, sydd o dan ofalaeth Cadw, yn cynnwys: Castell Coch, Llys yr Esgob Tyddewi, Abaty Tyndyrn, Llys a Chastell Tre-tŵr, a chestyll Biwmares, Caernarfon, Caerffili, Carreg Cennen, Cas-Gwent, Conwy, Cricieth, Dinbych, Dolwyddelan, Harlech, Cydweli, Rhaglan a Weble.

Caernarfon – Gŵyl Ddewi Arall (27 Chwefror i 1 Mawrth)

Digwyddiadau drwy gydol y penwythnos yn y Galeri, Llyfrgell, Clwb Canol Dre a Phalas Print yng Nghaernarfon, gan gynnwys arddangosfa newydd yr artist Iwan Bala, ‘Y Colli a’r Ennill’, a sesiynau yng nghwmni Bethan Gwanas, Ioan Doyle, Bedwyr Williams a Phil Stead yfory, ynghyd â gweithgareddau i blant.

Cwis a cherddoriaeth werin yng Nghaffi Maes nos Sadwrn yng nghwmni Arwel ‘Pod’ Roberts, Gwilym Bowen Rhys, Gethin Griffiths a’u ffrindiau.  Yna ddydd Sul fe fydd Emrys Llywelyn yn arwain taith ‘Ty’d am Dro Co’’ cyn yr Orymdaith Gŵyl Ddewi am 10.45am, fydd yn ymgynnull yn y maes parcio-am-ddim ger archfarchnad Morrisons.

Bethesda – Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth)

Cerdded o Ddôl Goch i Feddygfa Bethesda ar hyd Lôn Las Ogwen am 1.30yp. Cyngerdd i ddilyn yn Neuadd Ogwen am 2.30yp gyda Hogia’r Bonc, Boncathod a rhagor, a chyngerdd yng nghapel Jerwsalem gyda Chôr y Penrhyn.

Pwllheli – Llanast Llŷn (28 Chwefror)

Gorymdaith flynyddol sy’n benllanw ar wythnosau o ddigwyddiadau diwylliannol yn y dref. Yn perfformio bydd Gwilym Rhys Bowen, Y Chwedlau, Iestyn Tyne, Anest Bryn, Huw Evans (10 Mewn Bws), Band Arall ynghyd ag ysgolion lleol, Sali Mali a Superted.

Bae Colwyn – Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi (27 Chwefror)

Bellach yn ei 14eg flwyddyn, bydd plant ysgol leol mewn gwisgoedd traddodiadol yn gorymdeithio drwy’r dref ar fore dydd Gwener, gyda chyngerdd i’w ddilyn yn Eglwys Sant Paul.

Wrecsam – Gorymdaith Gŵyl Dewi (1 Mawrth)

Dechrau o Neuadd y Dref am 11.00yb ac ymlwybro drwy ganol y dref a gorffen yn Sgwâr y Frenhines.

Bydd Ffair Grefftau a Chynnyrch Cymreig hefyd yn cael ei chynnal yng nghanolfan y Saith Seren.

Aberystwyth – Parêd Gŵyl Dewi (28 Chwefror)

Yr orymdaith flynyddol sy’n mynd o nerth i nerth. Y Tywysydd eleni yw’r hanesydd lleol, Gerald Morgan, a bydd y DJ Geraint Lloyd yn arwain y seremoni ar ddiwedd y daith ar Lys y Brenin.

Caerfyrddin – Marchnad y Dref a’r Gerddi Botaneg (27 Chwefror – 1 Mawrth)

Rhwng 11.00yb ac 1.00yp heddiw fe fydd Radio Sir Gâr yn darlledu o Farchnad y Dref, gyda digwyddiadau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gan gynnwys blasu cawl, paentio wyneb a cherddoriaeth draddodiadol.

Mynediad am ddim hefyd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar ddydd Sul, gyda gweithgareddau i blant, cerddoriaeth draddodiadol, stondinau bwyd, coryglau a mwy.

Tyddewi – Gorymdaith Dreigiau (28 Chwefror)

Bydd yr Orymdaith Dreigiau flynyddol  yn dechrau o Oriel y Parc yn Nhyddewi am 11.00yb, gyda channoedd o blant ysgolion lleol ac aelodau grŵp gofal preswyl yn cerdded strydoedd dinas leiaf Prydain gyda’u dreigiau o’u gwaith nhw eu hunain, yng nghwmni Band Corfflu Awyr Sgwadron 948.

Bydd amryw o weithgareddau eraill yn ardal Tyddewi dros y penwythnos hefyd, gan gynnwys gwasanaethau Capel ac Eglwys, Twmpath Ddawns, stondinau a cherddoriaeth.

Abertawe – Aber Dewi (28 Chwefror)

Cyfres o ddigwyddiadau yfory, gydag adloniant ar lwyfan perfformio Stryd Portland cyn i’r orymdaith ddechrau o Sgwâr y Castell am 1.00yp.

Adloniant Cymraeg yn y sgwâr am 2.00yp ar ddiwedd y parêd, a chyfle i wylio gêm rygbi Cymru v Ffrainc ar sgrin fawr am 5.00yp, cyn gorffen gyda noson o gerddoriaeth Cymraeg yn y ‘No Sign Wine Bar’.

Caerdydd – Gorymdaith Gŵyl Dewi Sant (1 Mawrth)

Bydd yr orymdaith yn mynd am 12.30yp o Neuadd y Ddinas i Gastell Caerdydd, gyda cherddorion gwerin a dawnswyr lliwgar.

Bydd gŵyl gerddorol hefyd yn cael ei chynnal i gefnogi’r clybiau bach o gwmpas Stryd Womanby, cartref Clwb Ifor Bach. Ymhlith y degau o grwpiau fydd yn perfformio mae Keys, Rusty Shackle, Threatmantics a Cymbient.

Adloniant cerddorol a gweithgareddau celf a chrefft i blant hefyd yn cael eu cynnal yn adeilad y Senedd yn y Bae, yn ogystal â dawnsio gwerin pobi draddodiadol a mwy yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.