Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant
Mae o leiaf dwy ward wedi cael eu cau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant oherwydd y salwch stumog, norofirws.
Cadarnhaodd swyddfa Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Cwm Taf fod cynnydd yn nifer yr achosion o’r salwch sydd wedi achosi oedi i rai cleifion.
Mae’r ysbyty yn annog ymwelwyr i gadw draw o’r ysbyty am y tro wrth i fesurau gael eu rhoi mewn lle i ddatrys y sefyllfa.
Bu’n rhaid cau wardiau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg oherwydd norofirws yn 2012 hefyd.