Mae criw o bobol yn rhedeg o Gaerdydd i Gastell-nedd heddiw er mwyn codi arian i helpu merch fach dwy oed i dderbyn triniaeth arbenigol am diwmor ar ei hymennydd.

Mae teulu Freya Bevan yn ceisio codi £130,000 ar gyfer therapi pelydrau proton yn yr Unol Daleithiau gan nad yw’r driniaeth ar gael yng ngwledydd Prydain.

Cafodd y teulu wybod fis Mai y llynedd fod gan Freya diwmor ar ei hymennydd ac ers hynny, mi gafodd ddwy lawdriniaeth a chemotherapi.

Daeth cadarnhad yr wythnos diwethaf nad yw’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n fodlon ariannu’r driniaeth, er bod y teulu eisoes wedi cynnig talu £100,000 tuag at y costau gan ddefnyddio rhoddion sydd eisoes wedi dod i law.

Roedd Aelod Seneddol Llafur dros Gastell-nedd, Peter Hain wedi cysylltu â’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford nifer o weithiau i drafod y sefyllfa.

Ond daeth ymateb gan Drakeford yn dweud nad oes modd iddo ymyrryd mewn achosion unigol.

Pe na bai’r teulu’n codi digon o arian, mae’n debygol y byddai’n rhaid i Freya gael triniaeth radiotherapi, sy’n debygol o gael effaith mwy niweidiol arni yn y tymor hir.

Mae’r cyn-bêldroediwr John Hartson ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r ymdrechion i godi arian, ac fe wisgodd tîm pêl-droed Abertawe a thîm rygbi’r Gweilch fandiau arbennig i gefnogi’r achos dros y penwythnos.

Ar dudalen ymgyrch Freya Bevan, lle mae modd cyfrannu i’r achos, dywedodd ei rhieni: “Fe gynigion ni ac fe wnaethon ni ymbil ar y Gwasanaeth Iechyd, pe baen nhw’n derbyn £100,000 o’ch holl roddion chi, a fydden nhw’n fodlon helpu i godi gweddill yr arian ar gyfer triniaeth Freya, gan ein bod ni’n despret i gael rhoi’r driniaeth therapi pelydrau proton sydd ei hangen arni, ac maen nhw wedi gwrthod!!

“Rydyn ni tu hwnt i fod wedi torri’n calonnau ac mae’r dagrau’n llifo i lawr fy wyneb wrth i fi ysgrifennu hyn, ry’n ni’n teimlo fel pe baen ni wedi gadael ein merch fach ni i lawr. Pam na fydd unrhyw un yn ein helpu ni i roi’r cyfle iddi gael byw, dwy oed yw hi ac mae hi’n haeddu cyfle ond mae’r Gwasanaeth Iechyd wedi troi cefn arni’n barod!!”

Esboniodd ei rhieni y bu’n rhaid iddyn nhw aros naw diwrnod cyn cael gwybod na fyddai’r Gwasanaeth Iechyd yn cyfrannu at y driniaeth.