Bydd gwefan newydd yn cael ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi gan gyfreithwyr sy’n cynnig gwasanaeth cyfreithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd  www.cyfreithwyr.com yn cael ei lansio gan gwmni cyfreithwyr Darwin Gray o Gaerdydd, a fydd yn caniatáu i aelodau o’r cyhoedd, a pherchnogion busnes i chwilio am gyfreithwyr o safon sy’n medru cynnig gwasanaeth cyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y wefan yn galluogi i bobl chwilio, am ddim, am gyfreithwyr cyfrwng Cymraeg addas yn eu hardal nhw, beth bynnag yw eu problem gyfreithiol.

Yn ôl llefarydd: “Mae’r rhwydwaith yn un eang o gyfreithwyr o safon ar draws Cymru sydd yn medru delio gydag unrhyw broblem gyfreithiol drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Yn ôl y cwmni, bydd y wefan yn cysoni’r anghysondebau sydd wedi bod mewn gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae darpariaeth gwasanaethau cyfreithiol yn y Gymraeg wedi bod yn brin yn y gorffennol, gydag ambell i gyfreithiwr yn unig mewn ambell gwmni yn medru cynnig gwasanaeth Cymraeg. Y bwriad yw y bydd y wefan yma yn newid hynny.”