Llun: British Council Cymru
Mae adroddiad yn dangos bod yr iaith Gymraeg yn mynd o nerth i nerth ym Mhatagonia.

Bu cynnydd o 19% ers y llynedd yn nifer y bobl sy’n astudio cyrsiau Cymraeg a chynnydd o 54% yn nifer yr oedolion sy’n dysgu’r iaith.

Mae Adroddiad Monitro Blynyddol 2014 sy’n cael ei weithredu ym Mhatagonia gan British Council Cymru, yn dangos poblogrwydd cynyddol y Gymraeg yn y rhanbarth, gyda’r adroddiad yn dangos fod cynnydd o 19% yn nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg (o blant i oedolion), o 985 yn 2013/14 i 1174 yn 2014/15, sy’n gynnydd o 39% ers 2011.

Mae  cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion sy’n dysgu’r iaith gyda 268 o oedolion yn mynychu cyrsiau, cynnydd o 54% eleni a 135% ers 2011. Yn ogystal â’r nifer mwyaf erioed o ddysgwyr, yn 2014 y gwelwyd y nifer mwyaf o ddosbarthiadau Cymraeg yn hanes y prosiect, 90 o ddosbarthiadau i gyd, i fyny o 83 yn 2013 a 79 yn 2012.

‘Dyfodol tymor hir i’r iaith’

Dywedodd Gareth Kiff, monitor academaidd y prosiect ac awdur yr adroddiad: “Mae’r cynnydd yn y niferoedd o bobl o bob oedran sy’n dysgu Cymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf yn dyst i waith caled pawb a fu’n ymwneud â’r prosiect ym Mhatagonia a Chymru.

“Mae’r niferoedd yn tyfu ymhob categori oedran ac erbyn 2016 dylem gyrraedd sefyllfa lle bydd tair ysgol gynradd ddwyieithog.

“Gwaith y prosiect yw sicrhau bod gan bobl leol berchnogaeth o fentrau o’r fath a sicrhau bod dyfodol tymor hir i’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia. Mae hyn yn digwydd ac o ystyried y swm bychan o arian sydd ar gael i ni, mae’r prosiect yn enghraifft o gost effeithiolrwydd mewn cyfnod o galedi economaidd.”

‘Cysylltiadau’

Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Eleni, rydym yn nodi 150 o flynyddoedd ers i ymsefydlwyr o Gymru gyrraedd Patagonia ac mae’r adroddiad yn dangos yn glir sut y mae Prosiect yr Iaith Gymraeg yn helpu’r iaith i ffynnu yn y rhanbarth. Gobeithio y bydd y flwyddyn o ddathlu yn annog mwy o bobl yng nghymuned Gymraeg Patagonia ac yma yng Nghymru i ddysgu’r iaith.

“Mae prosiect y British Council, sef Connecting Classrooms hefyd yn helpu i greu cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia gyda phartneriaeth ar waith rhwng Ysgol Pentreuchaf, ger Pwllheli, ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, Chubut.  Mae Ysgol Feithrin y Gaiman, Chubut ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth hefyd yn creu partneriaeth ac mae pâr arall o ysgolion wedi mynegi diddordeb.”

Mae Prosiect yr Iaith Gymraeg wedi bod yn hyrwyddo a datblygu’r iaith Gymraeg yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia, yr Ariannin ers 1997. Bob blwyddyn mae tri swyddog datblygu iaith o Gymru yn treulio cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr yn dysgu ym Mhatagonia. Maent yn datblygu’r iaith mewn cymunedau sy’n siarad Cymraeg drwy ddysgu a gweithgareddau cymdeithasol.