Dydd Mawrth nesa’ yw’r diwrnod mwya’ poblogaidd o’r flwyddyn ar gyfer dympio cariad, yn ôl arolwg newydd.

Bedwar diwrnod cyn Dydd San Ffolant, mae’r wefan gariadus IllicitEncounters.com yn dweud bod 22% o 3,000 o bobol a gafodd eu holi wedi rhoi fflich i’r cariad ar y diwrnod hwn yn y gorffennol.

Roedd bron i wyth o bob deg person wedi dod â’r berthynas i ben dros y ffôn, yn ôl yr arolwg.

Y ffyrdd eraill poblogaidd o roi’r farwol i’r berthynas oedd:

  • Neges destun
  • Wyneb yn wyneb
  • Facebook
  • Whatsapp
  • Twitter

Creulon?

“Mae llawer o bobol yn sylwi nad ydyn nhw’n caru eu cymar wrth i Ddydd San Ffolant agosáu ac eraill yn sylweddoli nad ydyn nhw’n barod i ymrwymo i berthynas,” meddai’r seicolegydd Lucy Redford.

“Ac am fod Dydd San Ffolant yn ddathliad cenedlaethol, mae’n anodd ei anwybyddu.

“Efallai ei fod yn swnio’n eithaf creulon, ond mae hi hefyd yn medru gwneud niwed i berson sydd mewn perthynas nad ydyn nhw eisiau bod ynddo.”