Cyngor Sir Benfro
Mae pwyllgor o gynghorwyr Sir Benfro wedi cytuno i ostwng y cyflog fydd Prif Weithredwr newydd y Cyngor yn ei gael.

Bydd y prif weithredwr nesa yn derbyn £130,000 y flwyddyn o’i gymharu â’r cyflog o  £195,000 y flwyddyn oedd y cyn Brif Weithredwr, Bryn Parry Jones, yn ei dderbyn – y cyflog uchaf i unrhyw brif weithredwr cyngor yng Nghymru.

Fe adawodd Bryn Parry Jones ei swydd gyda phecyn cyflog o bron i £280,000 fis Hydref diwethaf’, wedi i ymchwiliad ganfod ei fod wedi derbyn arian di-dreth yn lle cyfraniadau pensiwn.

Roedd panel annibynnol wedi awgrymu y dylai’r prif weithredwr nesaf dderbyn cyflog o £130,000 ac roedd Cyngor Sir Benfro wedi awgrymu talu £145,000 y flwyddyn i’r arweinydd nesaf.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro fod cynghorwyr wedi “penderfynu mabwysiadu cyflog a gafodd ei argymell gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o £ 130,000.”

Yn dilyn y cyfarfod prynhawn ‘ma, bydd argymhelliad y pwyllgor yn cael ei basio ymlaen i’r cyngor llawn er mwyn i gynghorwyr bleidleisio dros dderbyn neu wrthod y cynnig ym mis Mawrth.

Fe fydd y broses o recriwtio prif weithredwr newydd yn dechrau ym mis Ebrill, ac mae disgwyl penodiad ym mis Mehefin.