Fe fydd protest yn cael ei chynnal ym mhentref Penygroes heddiw er mwyn gwrthwynebu cynlluniau posib i gau hanner llyfrgelloedd Gwynedd.

Fe gyhoeddodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb am y gwasanaeth, y Cynghorydd Ioan Thomas, ym mis Rhagfyr nad yw hi’n bosib cynnal yr 17 llyfrgell sydd yn y sir.

Y nod yw cau llyfrgelloedd ac arbed £169,000 y flwyddyn.

Ond mae llefarydd ar ran menter gymunedol Dyffryn Nantlle 2020, sy’n trefnu’r brotest, yn dweud mai llyfrgelloedd yw un o adnoddau pwysicaf y gymuned a bod ystyried eu cau yn ateb tymor byr:

“Llyfrgell Penygroes yw un o’r rhai sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf yn y sir. Dydi hyn ddim yn gwneud synnwyr” meddai Ben Gregory.

“Mae gwasanaeth y Llyfrgell yn holl bwysig i gymuned – mae’n fuddsoddiad yn y dyfodol.”

Meddai’r canwr a’r actor Bryn Fôn mewn cefnogaeth: “Mae pob cymdeithas ddiwylliedig angen llyfrgell. Peidiwch â dwyn ein rhai ni.”

Toriadau

Yn ogystal â llyfrgell Penygroes, mae llyfrgelloedd ym Methesda, Deiniolen, Nefyn a Harlech dan fygythiad.

Ychwanegodd Ben Gregory: “Mae cwtogi oriau llyfrgelloedd, neu eu cau yn gyfan gwbl, yn amddifadu pobol o wasanaeth sylfaenol iawn. Pan mae popeth arall yn edwino, mae llyfrgelloedd yn gallu bod yn gyfrwng i agor meddyliau.”

Dyma’r brotest gyntaf o’r fath ac mae Dyffryn Nantlle 2020 yn gobeithio y bydd pentrefi eraill yn trefnu digwyddiadau tebyg.

Dwyn y geiriau

Mae’r bardd Karen Owen, sy’n byw ym Mhenygroes, wedi ysgrifennu cerdd a fydd yn cael ei darllen yn y brotest y prynhawn yma:

Mae’r wlad ’ma ar ei gliniau,
mae’r Sir â chostau mawr…
Ac felly, maen nhw’n cosbi
y bobol ar y llawr!

Mae’r dreth yn dal i godi,
rhaid cau ysgolion bach
a pheidio gwagio biniau:
er mwyn cyllideb iach.

A rwan maen nhw’n dwad
i gau ein llyfrgell ni,
gan fygwth dwyn y geiriau
a llais ein protest ni.

Oherwydd rhaid bod ddistaw,
rhaid inni ddallt ein lle
a derbyn y toriadau
sy’n dod o dwr y Dre.

Ond na! Darllenais unwaith
mewn llyfr o straeon gwir
mai dim ond be’ sydd hawsaf
wnaiff gwleidydd tymor hir.

Mae’n hawdd targedu hamdden,
mae’n rhwydd rhoi gordd i’r iaith,
achos slogan pob un lecsiwn
’di iechyd, tai a gwaith.

Ond heddiw, camgymeriad
y siwt mewn swyddfa bell
’di bygwth y gwasanaeth
sy’n gwneud ein byw yn well.

Mae llyfrau’n agor llygaid
i addysg sy’n parhau;
mae llyfrau’n agor meddwl
na fedar neb ei gau.

KO
Ionawr 2015