Gŵyl Rhif 6 y llynedd
Bydd gŵyl gerddorol Gymreig yn cystadlu am un o wobrau’r cylchgrawn roc NME unwaith eto eleni.

Mae Gŵyl Rhif 6, sy’n cael ei chynnal ym Mhortmeirion, ger Penrhyndeudraeth, wedi cael ei henwi ymysg y chwech ar restr fer Gŵyl Fechan Orau’r cylchgrawn, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ar 18 Chwefror.

Roedd Geraint Jarman, Casi Wyn a’r Ods ymysg y perfformwyr Cymraeg yng Ngŵyl Rhif 6 yn 2014 a dyma’r trydydd tro iddi gael ei chynnal.

Bydd yn cystadlu yn erbyn gwyliau fel End Of The Road yn Dorset a’r Liverpool Psych Fest.

Cafodd Gŵyl Rhif 6 ei henwebu yn yr un categori’r llynedd hefyd, ond Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd gafodd ei choroni fel yr Ŵyl Fechan Orau.

Yn y categorïau eraill, fe fydd Kasabian a’r Arctic Monkeys yn mynd benben am deitl y Band Gorau a La Roux a Lana Del Rey yn cystadlu am wobr yr Artist Unigol Gorau.

Gallwch weld y rhestr gyfan o enwebiadau ar wefan NME, yn ogystal â linc er mwyn pleidleisio.