Y Gadair Ddu yng nghartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn
Fe fydd copi 3D o Gadair Ddu wreiddiol y bardd Hedd Wyn yn cael ei dadorchuddio yn y Senedd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, heddiw.

Mae’r gadair chwe throedfedd wedi ei atgynhyrchu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan ddefnyddio’r dechnoleg argraffu 3D  ddiweddaraf.

Bydd yn cael ei arddangos yn y Senedd tan ddiwedd mis Mawrth, ac yna’n cael ei ddefnyddio i ddehongli stori Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ôl hynny.

‘Symbol o effaith y rhyfel’

Cyn y seremoni ddadorchuddio dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Hedd Wyn yw yn o feirdd enwocaf a mwyaf dylanwadol Cymru.

“Wrth inni goffáu can mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae’r Gadair Ddu wedi dod yn symbol o effaith ddirdynnol y Rhyfel Mawr ar gymunedau a theuluoedd ar draws Cymru.

“Rwy’n annog pobol i ddod i’w gweld, nid yn unig i gofio am Hedd Wyn ond i gofio am bawb a laddwyd yn y Rhyfel Mawr.

“Rwyf hefyd yn llongyfarch Prifysgol Caerdydd am iddi ddangos sut mae Cymru yn arwain y byd wrth ddefnyddio technoleg fodern i wneud hanes yn rhywbeth byw.”

Hanes

Enillodd Hedd Wyn y gadair am ei awdl Yr Arwr yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917, chwe wythnos ar ôl iddo farw wrth ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd y gadair ei dyfarnu iddo mewn seremoni ar ôl ei farwolaeth a rhoddwyd lliain du dros y gadair yn ystod y seremoni cadeirio. Arweiniodd hyn at roi’r enw nodedig “Y Gadair Ddu” arni.