Angladd Ashley Talbot
Mae mam disgybl 15 oed o Ysgol Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, gafodd ei ladd mewn damwain y tu allan i’r ysgol wedi rhoi teyrnged iddo yn ei angladd.

Bu farw Ashley Daniel Talbot mewn damwain drasig gyda bws mini’r ysgol oedd ar ei ffordd i gêm rygbi ar 10 Rhagfyr.

Roedd mwy na 250 o bobol mewn gwasanaeth yn Eglwys Sant Cynfelyn, Caerau’r bore ma i gofio amdano.

Mewn teyrnged ysgrifenedig gafodd ei ddarllen gan y Parchedig Bev Reaney, dywedodd mam Ashley Talbot ei fod wedi bod yn “fraint” cael adnabod ei mab.

“Doedd Ashley ddim yn angel, ond roedd o’n werth y byd i ni,” meddai.

“Roedd o’n andros o gymeriad, gyda hiwmor gwych. Roedd o hefyd yn olygus, doniol ac ni allai neb fod wedi ei garu gymaint â ni.

“Rwy’n siŵr y bydd atgofion ohono yn ein calonnau am byth.”