Bu digon o fwrlwm unwaith eto ar flogiau golwg360 eleni wrth i’n cyfranwyr ni drafod ystod eang o bynciau llosg ym meysydd gwleidyddiaeth, chwaraeon, celfyddydau, cerddoriaeth a mwy.

Felly wrth i’r flwyddyn gyrraedd at ei therfyn, dyma chi’n rhestr ni o’r deg blog mwyaf poblogaidd ar y wefan eleni.

1. Blog Byw Refferendwm yr Alban

Roedd amryw o flogiau byw ar golwg360 eleni gafodd tipyn o sylw, ond dim yn fwy na’r blog byw o ganlyniad refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Wrth i ganlyniad pleidlais yr Albanwyr fwydo drwyddo Ifan Morgan Jones, Dylan Iorwerth ac Iolo Cheung oedd yno i ddod a’r canlyniadau a’r ymateb diweddaraf i chi o Gaeredin a thu hwnt.

2. Vaughan Roderick a phropaganda Russia Today

Roedd blog gan Hefin Jones yn trafod ymateb y cyfryngau rhyngwladol i’r tensiynau rhwng Rwsia a’r Wcráin eleni yn un hynod o boblogaidd.

Ynddi fe aeth ati i ddadlau ei bod hi’n rhagrithiol bod cyfryngau Prydain ac America yn cyhuddo darlledwyr Rwsia o gyflwyno propaganda tra ar yr un pryd yn gwneud hynny eu hunain – ac mewn ail flog fe aeth ati i drafod rhagor o esiamplau mewn rhyfeloedd eraill.

3. Adolygiad Blodeuwedd

    Roedd drama Blodeuwedd yn un o’r cynyrchiadau mwyaf poblogaidd yn y Gymraeg eleni, ac fe fu blogwraig celfyddydau golwg360 Megan Morgans draw i’w hadolygu i ni,

    Boddhaol oedd y gair a ddefnyddiodd Megan i ddisgrifio’r cynhyrchiad, gyda’r actores Rhian Blythe yn chwarae ei rhan yn wych yn ei barn hi, ond perfformiad Rhys Bidder ychydig yn llai trawiadol.

    4. Cofio’r Athro D. Ellis Evans

    Cafwyd teyrnged hyfryd yn gynharach eleni gan Dr Meinir Pritchard i’r Athro D. Ellis Evans, a fu farw ym mis Medi llynedd.

    Yn ystod gyrfa academaidd ddisglair fe gafodd Ellis Evans ei benodi i Gadair Gelteg Coleg yr Iesu yn Rhydychen, ac fe gynhaliwyd teyrnged olaf iddo yn y coleg hwnnw i’w gofio.

    5. Cymru yw’r Lloegr newydd?

    Blog rygbi sydd nesaf ar ein rhestr, gydag Ifan Morgan Jones yn holi ai tîm Cymru oedd ‘Lloegr’ newydd y byd rygbi.

    Ar ôl gêm danllyd rhwng Cymru ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a Mike Phillips yn ei chanol hi, pendroni oedd Ifan ai Cymru oedd y tîm yr oedd pawb bellach eisiau maeddu.

    6. Huw yn adrodd hanes

    Cafodd Ysgol Gymraeg Llundain ymwelydd arbennig ym mis Ebrill pan alwodd y newyddiadurwr Huw Edwards draw wrth ffilmio rhan o’i gyfres newydd Creu Cymru Fodern.

    Sara-Elen Scalise fu’n blogio i golwg360 am yr ymweliad, gan sôn hefyd am delynores ifanc o’r ysgol oedd wedi ennill lle yng Ngherddorfa Ieuenctid Prydain.

    7. Y Cymro ym Mrasil

    Bu blogiwr pêl-droed golwg360, Rhys Hartley, yn ddigon ffodus i gael mynd i Frasil dros yr haf i wylio Cwpan y Byd, gan sgwennu am ei brofiadau tra roedd e yno.

    Rhwng yr holl hedfan, teithio a mwynhau ymysg cefnogwyr y gwahanol wledydd oedd yno mae’n syndod ei fod wedi cael amser i flogio, ond roedden nhw’n ddigon i’n gwneud ni’n genfigennus beth bynnag!

    8. Iselder – chwalu’r tawelwch byddarol

    At bwnc llawer mwy dwys awn ni gyda’r nesaf ar ein rhestr, wrth i Malan Wilkinson rannu ei phrofiadau personol hi o ddioddef gydag iselder.

    Fe gyfrannodd hi hefyd at raglen Iselder: Un Cam Ar Y Tro ar S4C, gan ddweud yn ei blog mai “bwgan hyll” oedd iselder a’i bod eisiau chwalu’r stigma o gwmpas afiechyd meddwl.

    9. Noson Mr Phormula yn Aberystwyth

    At flog cerddoriaeth golwg360, ac i Aberystwyth ble bu Mared Llywelyn mewn noson hip-hop yn nhafarn yr Angel i weld Mr Phormula yn perfformio.

    Er ei bod hi’n cyfaddef nad oedd hi fel arfer yn ffan fawr o’r math yna o gerddoriaeth, mae’n amlwg ei bod hi a’i ffrindiau wedi gadael ar ddiwedd y noson ar ôl mwynhau’r gig yn fawr.

    10. Dychmygwch Gaza

    Fe ddaeth un o flogiau mwyaf difyr y flwyddyn gan Mererid Mair Williams, wrth iddi drafod sefyllfa Gaza yn ystod y gwrthdaro ag Israel dros yr haf.

    Gofynnodd hi i ddarllenwyr y blog ddychmygu petai Pen Llŷn fel Gaza, gyda’r boblogaeth wedi eu hamgylchynu, methu gadael, a bomiau yn disgyn ar eu cartrefi a’u hysbytai – delwedd digon trawiadol.