Mae Heddlu Dyfed Powys yn ystyried rhoi’r gorau i ddefnyddio camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) byw wedi i adroddiad ddarganfod nad oes digon o dystiolaeth i brofi eu bod yn atal troseddu.

Cafodd yr adroddiad gan gwmni diogelwch Instrom Security Consultants ei gomisiynu gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu Dyfed Powys, Christopher Salmon, sydd wedi dweud mai ei flaenoriaeth yw cael mwy o swyddogion ar y strydoedd:

“Mae’n rhaid i ni wario pob ceiniog ar ddarparu i’r cyhoedd,” meddai.

“Rydym wedi creu 30 o swyddi newydd i heddweision yn Nyfed Powys eleni a’r flwyddyn nesaf, bydd degau o filoedd yn fwy o oriau yn cael eu treulio ar y strydoedd – sef beth mae’r cyhoedd wedi ei ofyn amdano.”

Lefelau trosedd

Daeth yr adroddiad i’r casgliad nad oedd cael gwared a chamerâu CCTV yn codi lefelau trosedd a chamymddwyn cymdeithasol.

Mewn nifer o achosion nid oedd y camerâu yn medru dangos llun clir er mwyn erlyn drwgweithredwyr – 1.5% o achosion oedd yn defnyddio tystiolaeth o CCTV cyhoeddus a 1.5% o gamerâu preifat.

Mae’r Comisiynydd wedi awgrymu bod y cyllid ar gyfer CCTV yn dod i ben ym mis Ebrill, ond fe fydd yn monitro’r sefyllfa ac yn agored i ystyried datblygiadau technegol fel CCTV symudol.