Mae uchel farnwyr wedi penderfynu cynyddu dedfryd carchar dyn a dorrodd ran o drwyn ei cyn-gariad i ffwrdd ar ôl ffrae.

Fe ymosododd Dale Hathaway, 27 oed, ar Maria Vella gyda chyllell torri stêc ym mis Ebrill ar ôl iddi hi ofyn iddo beidio â gyrru oherwydd ei fod wedi yfed gormod.

Roedd angen mwy na 200 o bwythau ar Maria Vella er mwyn trwsio’r niwed yn dilyn yr ymosodiad yng Ngwesty Hilton Casnewydd, ac fe fydd ganddi greithiau am oes.

Dywedodd Llys Apêl Droseddol yn Llundain y dylai dedfryd Dale Hathaway am niwed corfforol difrifol gael ei gynyddu o chwech i wyth mlynedd.