Bethan Jenkins
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins wedi beirniadu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gan ddweud nad yw’n fodlon deddfu yn erbyn safleoedd glo brig.

Daw sylwadau’r Aelod Cynulliad tros Dde Cymru ar adeg pan fo ansicrwydd ynghylch dyfodol dau safle yn yr ardal.

Ar ei chyfrif Twitter, dywedodd Bethan Jenkins: “Ni fydd Carwyn Jones yn cryfhau deddfau yn erbyn glo brig. Geiriau gwag ar awrdudod moesol o ran Celtic Energy!”

Mae Carwyn Jones ymhlith nifer o Aelodau’r Cynulliad sy’n galw am adfer East Pit yng Nghastell-nedd Port Talbot – y safle hynaf yng Nghymru sy’n dal ar agor – a Pharc Slip ym Margam.

Ansicrwydd

Mae ansicrwydd ynghylch eu dyfodol wedi iddyn nhw gael eu trosglwyddo gan eu perchnogion, Celtic Energy i gwmnïau yn y Virgin Islands yn y Caribî am resymau treth.

Cafodd achos llys ei ddwyn yn erbyn dynion busnes a’u cyfreithwyr dros berchnogaeth y safleoedd, ond fe ddaeth i ben yn gynnar heb fod unrhyw un yn cael ei erlyn.

Wrth i safle glo brig gael ei agor, mae perchennog y safle fel arfer yn talu arian i mewn i gyfrif wrth i’r glo gael ei dynnu o’r ddaear, yn y gobaith o wneud digon o elw i gynnal a chadw’r safle wedi iddo gau am fusnes.

Pryderon

Bydd dau safle arall yng Nghastell-nedd Port Talbot a Phowys yn parhau i weithredu, ond mae’r pryderon am East Pit a Pharc Slip yn parhau.

Byddai angen gwario oddeutu £115 miliwn ar gynnal safle East Pit, ond dim ond £2.5 miliwn sydd wedi cael ei neilltuo ar hyn o bryd.

Ym Margam, dim ond £5.5 miliwn sydd wedi cael ei neilltuo allan o’r £57 miliwn fyddai ei angen er mwyn ei gynnal.

‘Cyfrifoldebau’

Mewn datganiad, dywedodd Carwyn Jones: “Mae fy etholwyr o’r farn fod gan Celtic Energy ddyletswydd foesol i adfer y safle.

“Nhw oedd y perchennog gwreiddiol a rhaid iddyn nhw gyflawni eu cyfrifoldebau.

“Mae’r cymunedau lleol o amgylch y safle glo brig yn haeddu dim llai.

“Mae angen i Celtic Energy ddeall eu cyfrifoldebau, felly hefyd Lywodraeth Prydain oherwydd y broses breifateiddio ddiffygiol oedd wedi gallu digwydd o dan y weinyddiaeth Doriaidd flaenorol.

“Fel Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr, rwy wedi bod yn cefnogi fy etholwyr gyda’r mater hwn a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y gobaith o ddod o hyd i ddatrysiad.”