Ann Clwyd
Fe fydd aelodau Llafur yng Nghwm Cynon heddiw yn dewis eu hymgeisydd ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae Ann Clwyd yn un o bedwar ymgeisydd sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i sefyll am sedd y blaid yn etholiad 2015.

Y tair merch arall fydd yn cystadlu am y sedd yw Katie Antippas, Susan Pickering ac Aysha Raza oddi ar restr fer o ferched yn unig.

Fe benderfynodd arweinwyr y Blaid Lafur bod yn rhaid i Ann Clwyd, 77, gael ei hail-ddewis i sefyll fel ymgeisydd yng Nghwm Cynon, er ei bod wedi cynrychioli’r ardal ers 1984.

Daeth y penderfyniad wedi i Ann Clwyd gyhoeddi ym mis Chwefror eleni na fyddai’n sefyll fel AS yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Ond fe wnaeth dro pedol ym mis Medi a dweud ei bod wedi ail-ystyried yn dilyn anogaeth gan bobol leol.

Fe ddywedodd y Blaid Lafur fod y broses o ddewis ymgeisydd arall wedi dechrau ar ôl iddi ddweud na fyddai’n sefyll eto.

Ffrae

Daeth penderfyniad Ann Clwyd i ail-ymgeisio yn dilyn ffrae oedd wedi corddi ar ôl i Lafur orchymyn bod yn rhaid i’r blaid yn lleol benodi merch arall fel ei holynydd.

Roedd y blaid leol yn chwyrn yn erbyn y syniad ac yn bygwth peidio bod yn rhan o’r broses i ddewis olynydd.