Gweithwyr Tinopolis yn eu siwmperi Dolig yn Galeri Caernarfon, o'r chwith: Menna Medi, Siôn Griffiths a Delyth Wyn.
Mae heddiw yn ddiwrnod i bob
scrooge aros dan y dwfe, gan fod bron i 4 miliwn o bobol ym Mhrydain yn gwisgo siwmperi Nadolig.

Pwrpas y digwyddiad cenedlaethol yw codi arian ac ymwybyddiaeth o waith elusen Achub y Plant.

Mae Achub y Plant yn trefnu Diwrnod Siwmper Nadolig am y trydydd tro eleni ac ar ol codi £1.3 miliwn y llynedd, mae’r elusen yn disgwyl codi dwbwl yn arian eleni.

Bydd y cyfanswm yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf, yn ol llefarydd.

£2

Mae’r elusen yn annog pobol i gymryd rhan yn y digwyddiad trwy wisgo eu siwmperi Dolig i’r gwaith neu’r ysgol a thalu £2 i gefnogi plant difreintiedig ym Mhrydain a thu hwnt.

Un o’r cwmnïau sydd yn cefnogi’r achos yw cwmni Tinopolis yn Galeri, Caernarfon yn ogystal ag ysgolion a busnesau eraill ledled Cymru.

Dywedodd Menna Medi o gwmni Tinopolis: “Mae’n achos sydd yn bendant werth ei gefnogi, ac mi’r ydan ni yma yn y swyddfa wastad yn falch o gefnogi achosion da.

“Mi fydd llawer iawn o sylw i’r digwyddiad ar raglen Heno – gyda’r saff wedi gwisgo eu siwmperi a Gerallt Pennant yn gwisgo un go arbennig!”

I ymuno yn yr hwyl a chyfrannu £2 at yr achos, gyrrwch neges destun gyda’r gair JUMPER i 70050.