Ashley Talbot Llun: Facebook
Mae ffrindiau a chyd-ddisgyblion y bachgen 15 oed fu farw mewn gwrthdrawiad y tu allan i Ysgol Uwchradd Maesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn talu teyrnged iddo.

Cafodd Ashley Talbot ei ladd mewn damwain gyda bws mini’r ysgol oedd yn cludo disgyblion i gêm rygbi am tua 3:00 bnawn ddoe.

Mewn datganiad, dywedodd ei ffrindiau o flwyddyn 11: “Bob bore, fe fyddai Ashley yn gwneud i ni wenu, roedd ei bersonoliaeth hapus yn heintus. Roedd bob tro yn gwmni da ac yn ffrind da i bawb oedd yn ei adnabod.

“Roedd o’n hoff iawn o’i feic modur ac o drwsio ceir. Roedd Ashley bob tro yn edrych am y gorau mewn pobol ac fe fydd o yn ein calonnau am byth. Ni fyddwn yn ei anghofio.”

Mae cyngerdd Nadolig yr ysgol oedd i fod i gael ei gynnal heno wedi ei ganslo, ac mae Pennaeth a Llywodraethwyr yr ysgol wedi estyn eu cydymdeimlad dwysaf i deulu Ashley Talbot ac i bawb oedd yn ei adnabod.

Cefndir

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r ysgol tua 3.05yp bnawn dydd Mercher.

Mae’n debyg fod Ashley Talbot wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda bws mini’r ysgol a oedd yn cael ei yrru gan aelod o staff yr ysgol.

Dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n parhau gyda’u hymchwiliadau i geisio darganfod beth achosodd y gwrthdrawiad ac fe fu swyddogion yn yr ysgol y bore ma yn gwneud apêl o’r newydd am dystion.