Tîm pêl-droed Lloegr
Roedd nos Sadwrn yn garreg filltir i bêl-droed merched yn Lloegr, wrth i’r tîm cenedlaethol chwarae ym Wembley am y tro cyntaf o flaen torf o dros 45,000.

Ond roedd un dyn o Flaenau Ffestiniog a wyliodd fuddugoliaeth yr Almaen o 3-0 dros y tîm cartref wedi ei ddrysu – doedd y merched yma ddim fel petai nhw’n deall sut oedd chwarae’r gêm.

Ddoe fe gyhoeddwyd llythyr tafod-yn-y-boch gan David Hickey ym mhapur newydd i, yn esbonio’i benbleth wrth wylio’r gêm ar y teledu.

Doedd merched “methu chwarae pêl-droed” a “ddim hyd yn oed yn gwybod y rheolau syml” – byd hollol wahanol, meddai, i’r hyn a welwch chi yn Uwch Gynghrair Lloegr bob wythnos.

Cynnwys y llythyr

Mae llun o’r llythyr bellach wedi cael ei rannu’n helaeth ar wefannau cymdeithasol – dyma beth oedd gan David Hickey i’w ddweud:

“Fe wyliais i gêm bêl-droed merched Lloegr a’r Almaen ar y teledu. Pam gafodd hon ei dangos? Dyw merched methu chwarae pêl-droed. Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod y rheolau syml.

“Pan maen nhw’n cael eu taclo, maen nhw’n codi i’w traed a chario ‘mlaen. Dydyn nhw ddim yn esgus eu bod wedi brifo. Dydyn nhw ddim yn deifio. Dydyn nhw ddim yn ceisio cael chwaraewyr eraill wedi eu hanfon o’r cae.

“Dydyn nhw ddim yn reslo pan mae ciciau cornel. Gwaethaf oll, dydyn nhw ddim yn rhoi amser caled i’r dyfarnwyr. Mae unrhyw ffŵl sydd wedi gwylio Uwch Gynghrair y dynion yn gwybod nad felly mae chwarae pêl-droed.

David Hickey

Blaenau Ffestiniog, Gwynedd”