Mae angen gwella’r ddarpariaeth o is-deitlau Cymraeg sydd ar gael a gwneud mwy i wella profiad cyffredinol gwylwyr teledu sy’n drwm eu clyw neu’n fyddar, yn ôl arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.

Daw’r adroddiad wedi i golwg360 adrodd yr wythnos diwethaf bod S4C yn “rhwystro tua 92,000 o siaradwyr Cymraeg rhag gwylio rhaglenni yn eu mamiaith” am nad oes is-deitlau Cymraeg ar gael ar gyfer pob rhaglen.

Mae adroddiad diweddar yn nodi bod is-deitlau yn “hanfodol” i’r gynulleidfa fyddar ddeall a gwerthfawrogi rhaglenni teledu, gyda bron i 90% o’r bobol a holwyd yn eu defnyddio.

Dywedodd yr arbenigwyr Yan Wu, Elain Price a Leighton Evans fu’n arwain y gwaith: “Ynghyd ag iaith arwyddo, byddai gwella’r defnydd o is-deitlau Cymraeg yn golygu bod y gwylwyr yn cael profiad gwell o wylio, ac yn darparu adnodd ar gyfer dysgu’r iaith.”

Safon is-deitlau

Bu arbenigwyr o Brifysgol Abertawe yn holi pobol sy’n drwm eu clyw ledled Cymru, lle’r oedd 15% yn deall Cymraeg, 7% yn ychwanegol yn medru darllen yr iaith a 6% yn rhugl ynddi. Roedd 67.5% yn defnyddio teclyn clyw, 30% yn medru darllen gwefusau a 5% yn defnyddio iaith arwyddo.

Ymysg rhai o’r awgrymiadau eraill oedd gweithredu canllawiau Ofcom ar safon is-deitlau yn fwy amlwg, a chodi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i’r byddar ar deledai digidol.

Mynediad llawn i raglenni S4C

Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen Action on Hearing Loss Cymru, Richard Williams, wrth golwg360:

“Mae gan un o bob chwe pherson yng Nghymru golled clyw, fyddardod neu dinitws. Iddyn nhw mae is-deitlo ar y teledu yn wasanaeth angenrheidiol.

“Ar hyn o bryd dydi Cymry Cymraeg sydd wedi colli eu clyw ddim yn cael mynediad llawn i raglenni S4C. Yn aml does dim dewis ond i wylio rhaglenni S4C gydag is-deitlau Saesneg, sydd yn hynod o ddryslyd.

“Rydan ni yn teimlo fod S4C angen gwella ei gwasanaeth i Gymry Cymraeg a cholled clyw gydag is-deitlau sydd yn sicrhau mynediad cyfartal i’w holl wylwyr.”

Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio yn y Senedd yng Nghaerdydd heddiw.