Gwlad Belg 0 – 0 Cymru

Mae Cymru’n dal i fod yn ddiguro yn eu hymgyrchu ragbrofol ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop 2016 wedi canlyniad gwych yn erbyn pedwerydd tîm gorau’r byd.

Llwyddodd Cymru i sicrhau pwynt yn erbyn Gwlad Belg gyda gêm ddi-sgôr ym Mrwsel yn eu gêm Grŵp B.

Penderfynodd rheolwr Cymru chwarae gyda system 4-5-1 gan ddechrau Gareth Bale yn yr ymosod ar ben ei hun.

Er i’r ymwelwyr ddechrau’n ddigon bywiog, Gwlad Belg reolodd y chwarae yn yr hanner cyntaf ac ychydig iawn o’r bêl a welodd Bale yn y llinell flaen.

Er hynny, mi wnaeth Bale ac Aaron Ramsey gyfuno’n dda i greu beth oedd bron iawn a bod yn gyfle da i Gymru’n fuan yn y gêm ond llithrodd Vertonghen i glirio’n wych.

Profodd Bale olwr y tîm cartref gyda chic rydd ar ôl 14 munud, ond arbedodd Courtois yn ddigon cyfforddus.

Ar yr hanner roedd y tîm cartref wedi cael 9 ergyd ar gôl o’i gymharu ag un i Gymru, a hynny’n dweud y cyfan am yr hanner cyntaf.

Yr amddiffynwr Vertonghen ddaeth agosaf gyda’i ergyd o gic gornel wedi 26 munud yn taro ochr fewn postyn Wayne Hennessey.

Rai munudau cyn hynny roedd Hennessey wedi arbed yn dda gyda’i droed o ymdrech Chadli.

Roedd seren Chelsea, Eden Hazard, yn ddraenen gyson yn ystlys Cymru trwy gydol y gêm ac os oedd gôl i ddod i’r tîm cartref roedd yn debygol y byddai’n chwarae rhan ynddi.

Gwell wedi’r egwyl

Beth bynnag oedd yn y tê yn ystafell newid Cymru yn ystod hanner amser fe weithiodd, ac roedd Cymru’n llawer gwell wedi’r egwyl.

Roedd George Williams wedi dod i’r cae yn lle David Cotterill, ac yn sicr fe wnaeth asgellwr ifanc Fulham wahaniaeth a’i gyflymder.

Yn sydyn iawn roedd Gareth Bale yn llawer mwy amlwg yn y gêm ac fe gyfunodd  yn dda gyda George Williams ar sawl achlysur.

Daeth y symudiad gorau rhwng y ddau wedi 57 munud, a Bale yn ergydio fodfeddi heibio’r postyn.

Am ugain munud cyntaf yr ail hanner, Cymru oedd y tîm gorau a Gwlad Belg yn methu a sefydlu patrwm i’w gêm.

Do, fe ddaeth y tîm cartref i mewn iddi am gyfnod yng nghanol yr hanner ond fe amddiffynodd Cymru’n ddewr gyda James Chester a’r capten Ashley Williams yn ardderchog unwaith eto yng nghanol yr amddiffyn.

Roedd Gwlad Belg yn dal i bwyso’r drwm gyda deng munud i fynd, ac roedd yn edrych fel petai Benteke yn mynd i sgorio gyda pheniad rhydd yn y cwrt ond fe arbedodd Hennessey yn wych, heb wybod bod y dyfarnwr cynorthwyol wedi codi ei luman eisoes am gamsefyll.

Roedd un cyfle gwych i ddod i’r Cymry, a Hal Robson-Kanu’n ergydio’n isel o ymyl y cwrt gan orfodi Courtois i arbed yn dda.

Wrth i’r pedwerydd swyddog ddynodi chwe munud o amser am anafiadau ar ôl anaf pen cas i Mertens, roedd Cymru’n barod i wynebu pwysau trwm gan y tîm cartref.

Fe wnaethon nhw hynny’n ddewr ac amddiffyn am eu bywydau. Daeth yr un cyfle mawr olaf gyda 96 munud ar y cloc – Christian Benteke yn penio yng nghanol y cwrt a Hennessey’n arbed yn wych cyn i Bale, o bawb, glirio.

Gwelwyd yr ysbryd gwych sydd yn y garfan unwaith eto wedi’r chwiban olaf wrth i garfan Cymru i gyd ymgasglu yng nghanol y cae cyn mynd draw at y cefnogwyr oedd wedi teithio i ddiolch iddyn nhw, a thaflu eu crysau i’r dorf yn y fargen.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Cymru’n aros ar frig Grŵp B gydag 8 pwynt, a Gwlad Belg yn llithro i’r pedwerydd safle gyda 5 pwynt.

Ymateb

Gareth Bale: “Rydan ni wedi dod i gartref y pedwerydd tîm gorau yn y byd, ac mae cael unrhyw beth yn ganlyniad da.”

“Fe gymrywn ni bwynt. Mi wnaethon ni gyd weithio i’n gilydd ac mae’n ganlyniad anferth.”

Capten Cymru, Ashley Williams: “Dyma un o’r perfformiadau gorau fel tîm i mi weld gan Gymru.”

“Roedden ni eisiau ennill y gêm ond fe gymrwn ni bwynt.”

Chris Coleman: “Ro’n i’n meddwl ei fod yn berfformiad anhygoel gan fy nhîm i, yn erbyn tîm anhygoel. Roedden ni wedi dweud y bydden ni’n gorfod dibynnu rhywfaint ar lwc, ac fe wnaethon ni, ond roedden ni wastad yn y gêm.

“Wnaethon ni ddim cuddio, ac ro’n i’n meddwl ein bod ni’n haeddu’r pwynt. Doedd hi ddim yn brydferth heno, ond does dim ots achos pwyntiau sy’n bwysig.”

Timau

Cymru: Hennessey; Gunter, Chester, Williams (C), Taylor; Ledley, Allen; Cotterill (G. Williams ’45), Ramsey, Bale; Robson-Kanu (Huws ’94).

Gwlad Belg: Courtois; Vanden Borre, Alderweireld, Lombaerts, Vertonghen; Witsel, Fellaini, De Bruyne; Chadli (Benteke ’62), Origi (Mertens ’73) (Januzaj ’89)), Hazard.