Arweinydd Llafur Ed Miliband yn cael neges calonogol o Gymru.
Mae mwy o wleidyddion Llafur yn barod i gael gwared ar Ed Miliband AS, er mwyn ennill yr etholiad yn 2015.

Heddiw mae honiadau bod hyd at 20 aelod o’r cabinet cysgodol yn barod i’w orfodi i sefyll i lawr wedi eu datgelu.

Yn ôl ffynonellau o fewn Llafur bydd y cynllwynwyr yn barod i symud yn erbyn Mr Miliband os bydd y cyn-ysgrifennydd cartref, Alan Johnson AS yn dangos ei fod yn barod i gamu i’r adwy.

Ond, yma yng Nghymru mae ASau Llafur yn ffyddlon i’w harweinydd gyda’r Ysgrifennydd Cymreig Cysgodol, Owen Smith, yn dweud bod neges Llafur Cymru yn “hollol glir” eu bod yn cefnogi Miliband.

Dywedodd Simon Danczuk AS Llafur dros  Rochdale wrth y Mail on Sunday: “Mae’n amlwg nad yw ei berthynas gyda’r cyhoedd yn gwella- nid yw Ed yn boblogaidd.

“Dyw e ddim yn bersonoliaeth ac mae angen iddo gydnabod hynny.”

Daw’r honiadau ffres allan prin ddyddiau ers i aelodau o’r cabinet cysgodol, Yvette Cooper AS ac Andy Burnham AS, orfod gwadu eu bod wedi trafod yr arweinyddiaeth os yw Miliband yn sefyll i lawr.

Mae ffigyrau polau piniwn dros yr wythnos diwethaf yn awgrymu mwy o gefnogaeth i Lafur os oedd ganddynt arweinydd arall.