Protestwyr 'Pwysau ar y peilonau'
Mae tua 80 o drigolion Sir Ddinbych wedi cerdded 14 milltir ar hyd y llwybr lle mae Scottish Power yn bwriadu gosod peilonau i gludo trydan.

Yn ôl y grŵp ‘Pwysau ar y Peilonau’ fe ddylai’r cwmni gladdu’r ceblau trydan rhwng Fferm Wynt Clocaenog a Llanelwy o dan y ddaear.

Tra maen nhw’n poeni am effaith y peilonau ar iechyd plant, twristiaeth a phrisiau tai, mae Scottish Power yn dweud eu bod wedi ymgynghori’n helaeth ac yn cadw o fewn y rheolau.

Mae’r peilonau yn gysylltiedig â chynllun gwerth £100 miliwn Fferm Wynt Coedwig Clocaenog a fydd, yn ôl y datblygwyr, yn gallu pweru 40,800 o dai a chynnal mwy na 200 o swyddi. Fe roddodd Ysgrifennydd Gwladol San Steffan dros Ynni a Newid Hinsawdd, Ed Davey, ei fendith ar y cynllun hwnnw fis Medi eleni. Mae Scottish Power Manweb am gyflwyno cais cynllunio’r peilonau cyn diwedd y flwyddyn.

Daw gwrthwynebwyr y peilonau o gymunedau Saron, Peniel, Groes, Henllan, Llannefydd a Chefn Meiriadog.

“Mae’r teimlad yn gry’ iawn yn yr ardal ein bod ni ddim wedi cael chwarae teg,” meddai Iona Edwards-Jones o bentref Saron, Is-gadeirydd Pwysau ar y Peilonau, “oherwydd bod Scottish Power wedi bod yn gamarweiniol iawn ac wedi gwneud sawl camgymeriad yn y ffordd maen nhw wedi gwneud yr ymgynghoriad.”

Mae’r ymgyrch wedi cael cefnogaeth gan rai cynghorwyr lleol a daeth y Cynghorydd David Jones i ddechrau’r daith ger melinoedd gwynt Tir Mostyn, Saron fore Sadwrn. Cerddodd yr Aelod Seneddol Chris Ruane – sydd wedi cyfarfod gyda SP Manweb ar ran yr ymgyrchwyr – gyda nhw o Henllan i ben y daith.

Y cwynion

Mae’r protestwyr yn honni bod y rhan fwyaf o drigolion Saron a Pheniel heb gael eu cynnwys yn llawn yn yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ddechrau’r haf.

“Maen nhw’n reit gyfrwys yn y ffordd maen nhw’n mynd o’i chwmpas hi i gynnal yr ymgynghoriad,” meddai Iona Edwards-Jones. “Maen nhw’n rhoi dewis, os mai dewis ydi o, o ryw dri llwybr lle gall y peilonau yma fynd. Mae’r gwahanol ardaloedd wedyn yn cael cyfle i ddweud lle maen nhw eisio iddo fo fynd, ac mae hwnna’n creu drwgdeimlad mewn cymunedau wedyn.”

Mae yna “bryder mawr”, yn ôl Iona Edwards-Jones, nad yw’r trigolion wedi cael cyfle teg i roi eu barn ar y cynllun, ac ar y peilonau eu hunain.

“Rydan ni’n poeni am iechyd. Rydan ni’n gwybod bod yna risg liwcimia i blant, os ydych chi hyn a hyn o fetrau i ffwrdd, ac mae yna dŷ ym Mheniel sydd 25 metr i ffwrdd. Maen nhw wedi anwybyddu’r tŷ yma ac wedi bwrw ymlaen.

“Rydan ni’n poeni am yr economi lleol. Mae yna andros o lot o dwristiaid ar hyd llwybr y peilonau, ar hyd y ffordd o’r dechrau i’r diwedd. Mae hyn yn mynd yn erbyn polisi sut mae [cynghorau] Sir Conwy a Sir Ddinbych eisio datblygu twristiaeth.

“Rydan ni’n poeni am brisiau tai. Rydan ni’n gwybod bod yna rai wedi colli sêl oherwydd y peilonau yma.”

Mae Scottish Power wedi egluro wrth y trigolion mai costau sy’n golygu nad yw’n bosib claddu’r gwifrau. “Yn ein barn ni, esgusion ydi hyn i gyd, mae’n rhaid iddo fo fynd o dan y ddaear,” meddai Iona Edwards-Jones. “Os ydan nhw’n wirioneddol yn gwneud ymgynghoriad yn y ffordd y maen nhw i fod, a gwrando ar farn y bobol… does yna ddim amheuaeth bod yn rhaid i hwn fynd o dan y ddaear.

“Os d’yn nhw ddim yn gwneud hynna, maen nhw wedi penderfynu cyn cychwyn unrhyw ymgynghoriad be’ maen nhw’n mynd i’w wneud.”

Scottish Power

Mae llefarydd ar ran Scottish Power Manweb yn dweud eu bod nhw wedi cynnal tri ymgynghoriad gwahanol – y ddau gyntaf yn “anstatudol”, a’r un olaf yn statudol o dan y Ddeddf Cynllunio 2008. Roedden nhw wedi hysbysebu’r tri yn helaeth trwy’r wasg a’r papurau lleol, medden nhw, trwy roi gwybodaeth i’r cyhoedd ac i gynghorwyr, a thrwy siarad gyda’r bobol sydd â diddordeb yn y tir dan sylw – boed yn dirfeddianwyr ac yn denantiaid.

“Yr Arolygiaeth Gynllunio a fydd yn penderfynu p’un a yw yn credu fod yr ymgynghoriad a wnaethpwyd yn un digonol,” meddai llefarydd Scottish Power Manweb.

Mae’r cwmni yn gwadu mai “esgusion” yw maint y gost o gladdu’r ceblau dan ddaear. “Y datblygwr sy’n gorfod talu am gost unrhyw gysylltiad ar gyfer project ynni adnewyddadwy newydd,” meddai’r llefarydd. “Mae gan SP Manweb ddyletswydd i gynnig y cysylltiad mwyaf cost-effeithlon i unrhyw ddatblygwr, ond rhaid i ni ystyried yn llawn yr holl bryderon amgylcheddol, gan gynnwys effaith weledol.

“Rhaid i ni drin â phob datblygwr yn yr un ffordd, p’run a yw’n gynllun bach cymunedol, neu’n ddatblygiad masnachol mawr. R’yn ni’n bwriadu tanddaearu ceblau trydan am tua 2km rhwng Heol Glascoed, Cefn Meiriadog a Llanelwy. Bydd y broses asesiad effaith amgylcheddol yn hanfodol wrth benderfynu ar unrhyw lefydd eraill y byddai’n briodol eu tanddaearu. Mae hyn yn digwydd ar hyn o bryd.

Ateb pryderon eraill y protestwyr

Iechyd risg liwcemia i blant, ac yn rhy agos at dai:

Scottish Power Manweb: “Mi osododd y Llywodraeth ganllawiau ar amlygiad i EMFs (meysydd trydanol a magnetig) yn y Deyrnas Unedig yn ôl cyngor Iechyd Cyhoeddus Lloegr. Mae SP Manweb yn glynu at y canllawiau hynny a bydd yn cynnal asesiad yn rhan o’r asesiad effaith amgylcheddol ar gyfer y llinell uwchben 132kV.”

Effaith ar dwristiaeth ac economi leol

Scottish Power Manweb: “Bydd maint yr effeithiau posib ar dwristiaeth – yn barhaol a dros dro – yn cael ei asesu yn fanwl trwy gyfrwng arolwg busnes twristiaeth, i gofnodi barn y gymuned busnes twristiaeth leol ar effeithiau o’r fath. Bydd yr ymatebion yma yn cael eu cynnwys mewn ymchwil gymharol ar ba mor debygol y bydd effeithiau sylweddol felly yn codi o ddatblygiad o’r fath.”

Prisiau tai yn disgyn colli prynwyr

Scottish Power Manweb: “Mae SP Manweb yn cydnabod effaith weledol llinell uwchben, a’r bwriad yw gosod y pellter mwyaf rhwng y llinellau a’r tai ymhle bynnag y bo hynny’n bosib.”

Stori: Non Tudur