Angharad Mair, cynhyrchydd a chyflwynydd rhaglen Heno
Mae cwmni teledu Tinopolis o Lanelli wedi ei roi ar werth, yn ôl adroddiadau ar wefan newydd y Guardian.

Y gred yw bod sawl cwmni ecwiti preifat fel ITV, All3Media a Sony wedi derbyn gwybodaeth am sefyllfa’r cwmni ynghyd â chynnig i’w brynu yn llawn neu’n rhannol.

Mae’r Guardian yn honni y gall y cwmni Cymreig, sy’n gwneud elw o tua £30 miliwn y flwyddyn, fod werth tua £300 miliwn.

Tinopolis sy’n cynhyrchu rhaglenni fel Question Time ar y BBC a Big Fat Gypsy Weddings ar Channel 4, yn ogystal â rhaglenni Heno a P’nawn Da ar S4C,  ac mae’n un o’r cwmnïau annibynnol mwyaf sy’n darparu gwasanaethau i ddarlledwyr.

Sefydlwyd y cwmni yn 1990 ac yn ogystal â Llanelli a Chaernarfon, mae ganddyn nhw ganolfannau cynhyrchu yng Nghaerdydd, Llundain a Glasgow.

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Tinopolis am ymateb.