Mae Cyngor Castell Nedd Port Talbot wedi cyhoeddi Siarter Iaith Gymraeg newydd ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd y sir heddiw.

Y bwriad yw hybu’r Gymraeg yn anffurfiol ymysg disgyblion mewn 12 o ysgolion, a cheisio sicrhau fod yr Iaith yn cael ei siarad y tu allan i’r dosbarth o ddydd i ddydd.

Yn debyg i siarter Iaith gafodd ei lansio gan Gyngor Gwynedd yn 2012, bydd y siarter yn annog a gwobrwyo’r ysgolion sy’n llwyddo i greu agwedd bositif tuag at yr iaith a chynyddu defnydd o’r Gymraeg ymysg y plant.

Ysbrydoliaeth

“Y neges rydym ni’n ceisio ei gyfleu yw bod y Gymraeg yn ddigon hyblyg i fynd i unrhyw le, boed hynny yn ddigwyddiad yn y maes chwarae neu yn yr ystafell ddosbarth, i’r gig roc i’r ffon symudol. Does dim rhaid eithrio’r Gymraeg o un o’r llefydd hyn,” meddai Aled Evans wrth golwg360.

“Rydym am i’r disgyblion weld y Gymraeg fel rhan naturiol o’u haddysg ond, yn fwy na hynny, yn rhan naturiol o’u bywydau hefyd.

“Mae tua 80% o blant yr ardal yn dod o gartrefi di-Gymraeg, ac mae’n rhaid i ni eu cael i ddeall nad oes dim byd yn greiddiol ddiffygiol am yr iaith.

“Yn ei defnydd hi mae ei dyfodol hi.”