Fe fydd protest yn cael ei chynnal heddiw ger gwaith trin carthffosiaeth Y Ganol yng Nglan Conwy, gan fod trigolion wedi diflasu ar yr hyn y mae cynghorydd lleol wedi’i alw’n “ddrewdod di-baid”.

Dywedodd y cynghorydd lleol, y Cynghorydd Alwyn ap Huw Humphreys wrth Golwg360 fod y “gwaith yn drewi’n ddi-baid ers 15 mlynedd”.

“Os dach chi’n mynd allan i’r ardd, allwch chi ddim aros yno achos mae o’n drewi.

“Pan dach chi’n bwyta, does ’na’m blas ar y bwyd oherwydd y drewdod.

“Tydi’r plant ddim yn medru mynd allan i chwarae chwaith.”

Fe fydd y brotest yn cael ei chynnal y tu allan i’r safle am 11 o’r gloch y bore ma, ac mae disgwyl i’r Aelod Cynulliad Janet Finch-Saunders, sy’n byw yn yr ardal, fod ymhlith y rhai sy’n cefnogi.

Dywedodd ei fod yn addawol y bydd “torf reit fawr” yn ymgasglu heddiw.

Ychwanegodd Alwyn ap Huw Humphreys fod y cynghorwyr sy’n trefnu’r brotest wedi bod mewn cyswllt â Dŵr Cymru nifer o weithiau, ond ei fod yn teimlo mai “ploy i’n stopio ni brotestio” ydi cytuno i gwrdd i drafod y mater.

Dywedodd: “Dydyn nhw heb wneud dim byd eto.

“Ond mae Janet Finch-Saunders wedi addo mynd at Lywodraeth Cymru efo’n pryderon ni.”

‘Ymddiheuro’

Wrth ymateb i’r pryderon dywedodd Dŵr Cymru: “Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Ganol yw un o’n gweithfeydd mwyaf yn y gogledd, ac mae’n chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd. Mae’r gweithfeydd yn trin carthffosiaeth yn ddiogel ar gyfer 88,000 o gwsmeriaid yn ardaloedd Hen Golwyn, Conwy a Glan Conwy.

“Er ein bod ni wedi bod yn ymwybodol o broblemau hanesyddol gyda drewdod yn y gweithfeydd, dim ond yn ddiweddar y daethom yn ymwybodol o’r problemau sy’n effeithio ar drigolion Glan Conwy. Wrth gwrs, mae’n flin iawn gennym glywed am hyn, a hoffem ymddiheuro o waelod calon am unrhyw anghyfleustra.

“Cyn gynted ag y daeth y sefyllfa i’n sylw, fe gysyllton ni â chynrychiolwyr y gymuned o dan sylw, a byddwn ni’n gweithio gyda nhw i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa.”

Ychwanegodd y cwmni bod nifer o ffactorau yn gallu effeithio ar weithrediad y gweithfeydd gan greu drewdod, fel y tywydd sych yn ddiweddar a allai fod wedi arafu cyflymdra llif y garthffosiaeth i’r gweithfeydd, gan gyfrannu at y sefyllfa.

“Rydyn ni wedi buddsoddi yn y gweithfeydd mewn blynyddoedd diweddar, ac mae cynlluniau ar y gweill i gyflawni gwaith buddsoddi pellach er mwyn gwella rhagor ar eu perfformiad.”

Mae Dŵr Cymru yn cynghori unrhyw un yn yr ardal sy’n sylwi ar ddrewdod, a’u bod credu ei fod yn gysylltiedig â’r gweithfeydd, i gysylltu â nhw ar unwaith ar eu llinell gymorth 24 awr – 0800 085 3968.