Ynyshir Hall, Machynlleth
Mae dau fwyty yng Nghymru wedi cael eu gwobrwyo hefo Seren Michelin, sy’n dynodi pa fwytai sy’n gweini’r bwyd gorau yn Ewrop.

Mae’n golygu fod pum bwyty yng Nghymru bellach hefo Seren Michelin – y nifer uchaf ar y rhestr ers 10 mlynedd.

Yn ymuno â The Walnut Tree yn Y Fenni, Tyddyn Llan yn Llandrillo a The Checkers yn Nhrefaldwyn mae Ynyshir Hall ym Machynlleth a’r Crown yn Nhrefynwy.

‘Amrywiaeth’

Mae’r Michelin Guide wedi bod yn penderfynu pa fwytai sy’n cyrraedd y brig ers 100 mlynedd ac fe gafodd 14 seren eu cyflwyno ar gyfer 2015.

“Mae’r sêr newydd yn adlewyrchu’r cyfoeth a’r amrywiaeth yn y dewis o fwytai ym Mhrydain,” meddai golygydd y canllaw, Rebecca Burr.

“Mae gwybodaeth y cyhoedd o fwyd da yn tyfu bob blwyddyn.”

Am restr lawn o’r bwytai sydd â Seren Michelin ewch i:

http://travel.michelin.co.uk/ekmps/shops/michelin1/resources/other/gbi-2015-award-summary.pdf