Mae tri dyn gafodd eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn ym Mhontardawe ar ddechrau’r mis wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafwyd hyd i gorff John Griffiths, 66, yng nghamlas Stryd Herbert yn y dref tua 9yb dydd Llun, 1 Medi.

Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad.

Roedd y tri dyn 20, 41 a 42 oed yn y ddalfa ers y penwythnos ond maen nhw wedi cael eu rhyddhau heddiw.

Mae ymchwiliad Heddlu De Cymru i’r farwolaeth yn parhau, gydag apêl i’r cyhoedd i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad trwy ffonio 101.