Rhys Ifans fel Capten Cat (Llun: S4C)
Y penwythnos hwn, mae’r actor Rhys Ifans yn lawnsio fersiwn ffilm newydd Kevin Allen o
Dan y Wenallt yng Ngŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion.

Dyma fersiwn newydd o ddrama boblogaidd Dylan Thomas, sydd wedi ei ffilmio gefn wrth gefn yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd y fersiwn Gymraeg, Dan y Wenallt, yn cael ei darlledu am y tro cynta’ ar S4C ar nos Sadwrn, Rhagfyr 27. Y cyn-Archdderwydd, T James Jones, sy’n gyfrifol am eiriau’r fersiwn Gymraeg.

Gydol y penwythnos ym Mhortmeirion, fe fydd darlleniadau a pherfformiadau gan Rhys Ifans a Charlotte Church, ac fe all ymwelwyr ymweld â charafán Dan y Wenallt, a mwynhau adloniant y gofod perfformio.

Bydd celfi sydd wedi eu defnyddio yn y ffilm hefyd i’w gweld, ynghyd a lluniau o’r set. Mae sgrin yn dangos clip o fersiwn Saesneg y ffilm.