Mae’r heddlu yn ymchwilio ar ôl ymosodiad honedig ar ferch 13 oed yn Sir Benfro neithiwr.

Dywed yr heddlu bod dyn o dras Asiaidd neu Bacistanaidd wedi neidio allan o fan a cheisio ymosod ar y ferch.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 7:30 yr hwyr ar Stryd Bush, Doc Penfro wrth i’r ferch gerdded ar ochr y stryd.

Mae cyfweliadau o ddrws i ddrws yn cael eu cynnal gan yr heddlu, sydd hefyd yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.

Dywedodd y Prif Arolygydd Dave Guiney: “Ar adeg yr ymosodiad, roedd y ferch yn gwisgo top gwyrdd golau a legins du.

“Fe ddaeth yr ymosodwr allan o fan wen fechan a cheisio ymosod arni. Ni lwyddodd, ac fe gerddodd hi i ffwrdd.

“Mae’r dyn yn cael ei ddisgrifio fel rhywun o dras Asiaidd neu Bacistanaidd, tua 5’8 o daldra a rhwng 25-35 oed.

“Roedd ganddo wallt du byr a locsyn byr. Roedd yn gwisgo top du llewys byr a jîns du. Mae dyn arall, gyrrwr y cerbyd, yn cael ei ddisgrifio fel dyn Asiaidd sydd â gwallt du byr.”