Ar ôl tyfu o nerth i nerth dros y saith mlynedd diwethaf, cael ei henwi’r Ŵyl Fechan Orau yng ngwobrau’r cylchgrawn roc NME, a sefydlu gorsaf radio eu hunain byddai rhywun wedi disgwyl i drefnwyr Gŵyl Sŵn wneud sbloets go iawn o bethau eleni.

Ond yn hytrach na llwyfannu bandiau Cymraeg a Saesneg dros bedwar diwrnod mewn lleoliadau ar hyd a lled Caerdydd fel y llynedd, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi heddiw mai gŵyl undydd o dan yr enw ‘Dim Sŵn’ fydd yn cael ei threfnu y tro hwn.

Ar wefan yr ŵyl, ceir esboniad sy’n dweud nad ydyn nhw wedi medru cael digon o weithwyr rhan amser a gwirfoddolwyr i helpu i drefnu digwyddiad mor fawr â’r llynedd.

Dywedir hefyd fod John Rostron, un o sefydlwyr yr Ŵyl ynghyd a’r DJ Radio 1 Huw Stephens, wedi cael swydd llawn amser ac felly ddim wedi medru cyfrannu gymaint o amser i drefnu’r ŵyl.

“Roeddem yn rhy fawr i fod yn ŵyl fechan, ac yn rhy fach i fod yn ŵyl fawr. Roedd yn edrych fel bod Sŵn yn mynd i ddod i ben.

“Dyma pryd sylweddolom ni fod Dim Sŵn yn gwneud synnwyr, a gyda chefnogaeth gan ein partneriaid, y bandiau a’i asiantaethau ni’n falch o allu cyhoeddi hyn heddiw,” meddai’r neges ar wefan yr ŵyl.

Gydag artistiaid fel Cian Ciaran, Candelas, Chris Jones, Kizzy Crawford, Plu a Trwbador ar yr arlwy a dim ond 500 o docynnau ar gael, mae’r trefnwyr yn awgrymu archebu’n fuan am docyn i Dim Sŵn ar 18 Hydref.