Mae corff dyn wedi’i ganfod mewn hen chwarel yn Llangollen.

Y gred, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, yw fod y dyn yn hanu o ardal Swydd Gaerlyr, a’i fod wedi bod yn deifio yn Aber Las yn ardal Nantyr brynhawn ddoe gyda dau o’i gyfeillion.

Fe aeth i drafferthion, ac fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw.

“Yn ystod yr oriau mân, fe ddaethpwyd o hyd i gorff dyn yn y chwarel,” meddai datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru. “Mae ei deulu wedi cael gwybod.

“Dydi Heddlu Gogledd Cymru ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus, ond fe fydd swyddogion yn parhau i wneud ymholiadau ar ran y Crwner.”