Fe fydd cerddorion ac awduron o Gymru yn teithio i Awstralia i gymryd rhan mewn digwyddiadau i nodi canrif ers geni Dylan Thomas.

Yng Ngŵyl Awduron Melbourne, bydd yr awduron Rachel Trezise a John Williams yn siarad am lenyddiaeth gyfoes o Gymru yn ogystal â gwaddol Dylan Thomas. Yn ymuno â nhw ar y daith ddiwedd y mis fydd y cerddorion Gareth Bonello a Richard James ar gyfer sesiwn o gerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm.

Mae’r digwyddiadau yn rhan o ‘Starless and Bible Black’, sef dathliad rhyngwladol o waith Dylan Thomas. Caiff y daith ei noddi gan y Cyngor Prydeinig.

Bydd Gŵyl Awduron Melbourne yn cael ei chynnal rhwng 21 a 31 Awst ac mae disgwyl iddi ddenu cynulleidfa o dros 40,000.

Cyswllt

“Mae gwaith Dylan Thomas wedi cael effaith barhaol ac mae Gŵyl Awduron Melbourne yn falch o gael ymuno â chymuned lenyddol ryngwladol i ddathlu ei waddol,” meddai Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Awduron Melbourne, Lisa Dempster.

“Mae’r dathliad rhyngwladol Dylan Thomas 100 yn creu’r cyfle perffaith i Ŵyl Awduron Melbourne archwilio ysgrifennu Cymreig cyfoes hefyd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â lleisiau cyffrous o’r rhan ddiddorol honno o’r byd i gysylltu ag awduron a darllenwyr o Awstralia.”

Croesawodd Helen O’Neil, cyfarwyddwraig British Council Australia, ymweliad artistiaid o Gymru â’r Ŵyl hefyd: “Mae’n gyfle gwych i ymgysylltu â chenhedlaeth newydd o artistiaid o Gymru sydd wedi adeiladu ar ei waddol ac sydd wedi cysylltu Cymru a’r Cymry â’r byd drwy ysgrifennu, cerddoriaeth, gwneud ffilm a pherfformio.”