Lai nag wythnos ers diwedd Eisteddfod Genedlaethol Sir Gar 2014, mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y flwyddyn nesa’ yn parhau ei thaith gerdded o gwmpas arfordir Cymru.

Yn dilyn cymalau cychwynnol ei thaith gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir ddechrau’r haf, bydd Beryl Vaughan, ar grwydr yn y gogledd orllewin yn ystod y dyddiau nesa’.

“Mae hon yn mynd i fod yn daith odidog o hardd,” meddai Beryl, wrth baratoi i ail-gychwyn.  “Ryden ni wedi bod yn ffodus iawn gyda’r tywydd hyd yn hyn a gobeithio’n arw y bydd y lwc yma’n cario ymlaen wrth i ni grwydro drwy Llyn ac ar hyd arfordir hardd Gwynedd.

“Mae’r daith hon wedi cydio ym meddyliau pobl a braf yw hynny.  Ryden ni wedi cael cymaint o gefnogaeth yn ystod y cymalau cychwynnol, a braf oedd siarad gyda chymaint o bobl ar Faes yr Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf a oedd yn holi am y cymalau nesaf ac yn gobeithio ymuno gyda ni.

“Y bwriad, wrth gwrs, yw codi arian tuag at Gronfa Leol Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau, ond mae hefyd wedi bod yn ffordd ardderchog o godi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod yn gyffredinol, ac o roi cyfle i bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Llwybr Beryl Vaughan

18 Awst – Harlech i Borthmadog

19 Awst – Porthmadog i Bwllheli

20 Awst – Pwllheli i Bentowyn

21 Awst – Pentowyn i Aberdaron

22 Awst – Aberdaron i Dudweiliog

23 Awst – Tudweiliog i Drefor

24 Awst – Trefor i Gaernarfon

Troi tua’r de…

1 Medi – Wdig i Abercastell

2 Medi – Abercastell i Borth Stinan

3 Medi – Porth Stinan i Niwgwl.

Mae’r arian i gyd yn mynd tuag at gronfa Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau,  gynhelir ym Meifod rhwng Awst 1-8, 2015.