Mae arweinydd Cyngor Ynys Môn wedi datgan ei siom na fydd cynlluniau i ddatblygu fferm wynt mawr oddi ar yr arfordir yn mynd yn eu blaen bellach.

Mae’r cwmni oedd y tu ôl i’r datblygiad wedi dweud nad oedd y fferm wynt yn ymarferol yn economaidd wrth ddefnyddio’r dechnoleg bresennol.

Ond dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams y byddai’r cyngor sir yn parhau’n gefnogol i unrhyw gwmnïau eraill sydd â diddordeb i fynd a’r prosiect yn ei flaen.

Cefndir

Roedd fferm wynt arfaethedig i fod i gael ei datblygu gan Celtic Array Cyf tua 12 milltir oddi ar arfordir Ynys Môn.

Roedd disgwyl y byddai’r fferm yn cyflenwi hyd at 1.5 miliwn o gartrefi.

Ond cyhoeddodd Ystâd y Goron heddiw ei fod wedi cytuno i gais Celtic Array i ddod a’i gytundeb ynni gwynt ar y môr i ben. Bydd hyn yn caniatáu i’r datblygwyr, DONG Energy a Centrica, i roi terfyn i’w gwaith, a’u hawliau i wely’r môr.

Gwnaethpwyd y penderfyniad wedi asesiadau diweddar oedd yn dangos bod cyflwr heriol y ddaear yn golygu na fyddai’r prosiect yn ymarferol yn economaidd wrth ddefnyddio’r dechnoleg bresennol.

‘Siomedig’

Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams: “Mae hyn yn hynod siomedig, yn enwedig gan fod Celtic Array newydd orffen ail ymgynghoriad am eu datblygiadau ar y môr a’u bod hefyd yn chwilio am gysylltiadau ar y tir ym Môn ar gyfer y fferm wynt.”

Ychwanegodd: “Byddwn yn annog Ystâd y Goron i barhau â’i astudiaeth ddichonoldeb technegol gan ddefnyddio’r wybodaeth eisoes wedi ei gasglu gan Celtic Array.

“Mae technoleg yn gallu newid yn gyflym ac mae potensial dal yno ar gyfer datblygu’r ardal yma yn y dyfodol. Byddai’r Cyngor Sir yn parhau’n gefnogol i unrhyw bartïon sydd â diddordeb mynd a’r prosiect yma yn ei flaen.”