Dylai biliau treth cyngor gael eu gostwng i bobl yng Nghymru a Lloegr sy’n gwirfoddoli yn y gymuned drwy helpu elusennau neu redeg gwasanaethau fel llyfrgelloedd ac amgueddfeydd.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol am weld degau o filoedd o “arwyr cymunedol” yn cael gostyngiadau yn gyfnewid am eu cefnogaeth.

Dywedodd y Gymdeithas hefyd y byddai’r cynlluniau yn arbed miliynau o arian cyhoeddus.

Mae’r Gymdeithas wedi galw ar bleidiau San Steffan i wneud ymrwymiad maniffesto a fyddai’n cyflwyno’r cynllun gwirfoddoli newydd.

Byddai lefel y gostyngiad yn cael ei osod yn lleol, ond mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol, sy’n cynrychioli cynghorau yng Nghymru a Lloegr, yn awgrymu y gallai cronfa gychwynnol o £50 miliwn gael ei greu er mwyn caniatáu i 500,000 o wirfoddolwyr gael gostyngiad o 10%.

Byddai elusennau a grwpiau cymunedol yn helpu cynghorau i nodi pa wirfoddolwyr ddylai fod yn gymwys.

Mae gan gynghorau eisoes bwerau i gyflwyno gostyngiadau ond mae’r Gymdeithas Llywodraeth Leol yn mynnu bod toriadau sylweddol i gyllidebau awdurdodau lleol yn ei gwneud hi’n anodd cynnig gostyngiadau.