Christine Chapman AC
Ar adeg pan mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn cau, mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi dweud fod y llyfrgelloedd yn darparu gwasanaethau “hanfodol sydd yn mynd y tu hwnt i lyfrau”.

O ganlyniad, mae’r  Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i wneud mwy i ddarparu’r amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n cael ei gynnig gan lyfrgelloedd.

Mewn adroddiad sy’n cael ei lansio heddiw, fe ddywedodd aelodau’r pwyllgor fod llyfrgelloedd yn cyfrannu at fywyd cymunedol, gan gynnwys addysg, iechyd a lles, trechu tlodi ac allgau cymdeithasol.

Fe allan nhw hefyd bontio’r ‘rhaniad digidol’ drwy ddarparu mynediad i’r rhyngrwyd am ddim, sy’n rhywbeth a ddylai barhau, yn ôl y pwyllgor.

‘Hanfodol’

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: “Gyda thoriadau yn parhau mewn gwariant cyhoeddus, mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod nifer o awdurdodau lleol yn ystyried naill ai gau cyfleusterau neu gynnig llai o wasanaethau ynghyd â chymorth gan wirfoddolwyr i arbed arian.

“Rydym yn credu bod llyfrgelloedd yn chwarae rôl hanfodol mewn nifer o gymunedau, gan gyfrannu at feysydd fel addysg, iechyd a lles, trechu tlodi ac allgau cymdeithasol.

“Mae nifer o enghreifftiau gwych yng Nghymru o sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio cydleoli i wella’r gwasanaethau sydd ar gynnig, ac rydym yn credu y gellir dysgu o’r enghreifftiau hyn.
“Rydym hefyd yn awyddus i weld Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud mwy i hyrwyddo’r gwasanaethau hyn, yn ogystal ag ymchwilio i gyfleoedd i godi arian er mwyn diogelu’r cyfleusterau hanfodol hyn.”

Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn cynnwys argymhellion pellach yn ymwneud  a chyfleoedd posibl i godi arian y tu allan i wasanaethau hanfodol, a chydleoli, lle caiff nifer o gyfleusterau a gwasanaethau awdurdodau lleol eu cynnwys ar un safle.