Ysbyty Singleton, Abertawe
Mae rheithfarn naratif wedi’i chofnodi yng nghwest babi fu farw ar ôl cael ei heintio ag E.coli yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

Cafodd Hope Erin Evans, oedd wedi’i geni 14 wythnos yn gynnar, ei heintio gan fabi arall oedd yn ddifrifol wael yn yr ysbyty yn 2011.

Bu farw’n bum niwrnod oed ar ôl i’w chyflwr ddirywio ac roedd babi arall yn yr ysbyty wedi marw o ganlyniad i’r haint.

Roedd mam y babi arall wedi cael ei heintio tra roedd hi’n derbyn triniaeth IVF yn India.

Cafodd y cyflwr ei nodi ar ei nodiadau meddygol ond doedd hi na’i meddygon yng Nghymru ddim yn ymwybodol ei bod hi’n dioddef o’r haint tan ei fod wedi lledu.

Clywodd y cwest bod crud y ddau fabi ddau fetr i ffwrdd o’i gilydd yn yr uned gofal dwys ar gyfer babis newydd, er bod canllawiau’n dweud y dylen nhw fod o leiaf tri metr i ffwrdd o’i gilydd.

Beirniadaeth

Yn ystod y gwrandawiad, gwnaeth y crwner Colin Phillips feirniadu Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg am y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â’r haint.

Er gwaethaf sicrwydd gan y bwrdd iechyd eu bod nhw wedi gwella’u cyfleusterau yn yr uned i fabanod, dywedodd y crwner ei fod yn bwriadu ysgrifennu adroddiad ar sut i atal rhagor o farwolaethau yn y dyfodol.

Ymhlith y diffygion fyddai’n cael eu nodi, meddai, mae’r ffaith nad oedd dogfen allweddol yn gofyn i ddoctoriaid wirio a yw cleifion wedi derbyn triniaeth y tu allan i’r DU.

Clywodd y cwest hefyd y byddai’r ysbyty wedi trin yr achos yn wahanol pe baen nhw’n ymwybodol fod un o’r mamau’n dioddef o E.coli.

Fe fydden nhw, meddai’r bwrdd iechyd, wedi cael eu cadw ar wahân er mwyn atal yr haint rhag lledu.

‘Cyfleusterau gwael’

Ychwanegodd y crwner fod cyfleusterau’r uned yn “wael” ac “wedi dyddio”.

Dywedodd nad oedd digon o sinciau ar gyfer nifer y babanod ac roedd ciwiau’n datblygu ar adegau allweddol.

Clywodd y cwest hefyd fod y fam wedi cael ei throsglwyddo o Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful heb i’r ddogfen gywir gael ei chwblhau.

Ond ychwanegodd y crwner nad oedd hynny, mewn gwirionedd, yn gwbl allweddol i’r ffaith fod y babi wedi marw.

Mae’r bwrdd iechyd wedi estyn eu cydymdeimlad i’r teuluoedd a gafodd eu heffeithio.