Tlws Barn y Bobl 2014 (cynlluniwyd gan Glesni Thomas)
Nofel Ioan Kidd, Dewis, sydd wedi taro deuddeg hefo darllenwyr golwg360 ac wedi dod i’r brig ym mhleidlais Barn y Bobl yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.

Cyhoeddwyd enw’r awdur buddugol gan Owain Schiavone, prif weithredwr golwg360, mewn seremoni fawreddog yn Galeri, Caernarfon heno.

Mae’r nofel Dewis, sy’n cael ei disgrifio fel gwaith “egnïol a heriol”, yn bortread o deulu dosbarth canol cyfoes yn ne Cymru ac yn trafod pynciau fel tor-priodas a’r perthnasau y tu fewn i’r teulu.

Hon yw pumed nofel Ioan Kidd, sy’n frodor o Gwmafan yng ngorllewin Morgannwg, a’r drydedd iddo sgwennu i oedolion.

Llyfr Ffeithiol Greadigol Alan Llwyd, Bob: Cofiant R. Williams Parry 1884-1956, ddaeth yn ail yn y bleidlais – gyda dim ond 5% o wahaniaeth rhwng y cyntaf – a Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T. H. Parry-Williams ddaeth yn drydydd.

Cyflwyno gwobr Barn y Bobl:

Themâu dadleuol’

Wrth drafod ei waith, dywedodd Ioan Kidd yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg:

“Roeddwn i’n chwilio am themâu cyfoes fyddai’n ennyn trafodaeth.

“Dw i’n credu – ac yn gobeithio – bod y ddwy brif themâu a ddewisais yn ddigon dadleuol ac roeddwn yn awyddus i osod sefyllfa o benbleth ar y cymeriadau a’u portreadu fel pobol o gig a gwaed.”

Dyma’r bumed flwyddyn i bleidlais Barn y Bobl gael ei chynnal gan Golwg360.