Daniel Morgan
Y Farwnes Nuala O’Loan o Kirkinriola fydd yn cadeirio’r ymchwiliad i lofruddiaeth y ditectif preifat Daniel Morgan ym 1987.

Fe fydd y Farwnes, cyn ombwdsmon yr heddlu yng Ngogledd Iwerddon, yn arwain yr ymchwiliad i lofruddiaeth Daniel Morgan o Dorfaen, gan edrych ar gefndir yr achos a sut y cafodd ei ymchwilio gan yr heddlu.

Cafwyd hyd i’r ditectif preifat mewn maes parcio tafarn yn ne ddwyrain Llundain gyda bwyell yn ei ben ym mis Mawrth 1987.

Mae ei farwolaeth yn parhau’n ddirgelwch.

Yn dilyn nifer o ymchwiliadau i’r achos rhwng 1987 a 2002 fe benderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn 2011 na fyddan nhw’n parhau i geisio erlyn pump o bobl oedd yn cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r achos.

Roedd yr Heddlu Metropolitan wedi cyfaddef bod llygredd o fewn yr heddlu yn un o’r ffactorau oedd wedi cyfrannu at fethiant yr ymchwiliad gwreiddiol.

Fe fydd y Farwnes Nuala O’Loan yn olynu Syr Stanley Burnton a oedd wedi ymddiswyddo o’r panel annibynnol ym mis Tachwedd am resymau personol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May ei bod hi’n “ddiolchgar iawn i’r Farwnes O’Loan am dderbyn y rôl bwysig hon ac rwy’n edrych ymlaen at weld y panel yn cwblhau eu gwaith.”