Fe all Cymru arwain y ffordd ar iechyd cyhoeddus a mynd i’r afael â gordewdra trwy gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, yn ôl llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Elin Jones AC.
Dywedodd yr AC dros Geredigion y gallai’r dreth hefyd fod yn fodd o godi refeniw ychwanegol i recriwtio mil o feddygon yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Gallai’r defnydd arloesol hwn o bwerau ariannol newydd fod yn arf pwerus yn y frwydr yn erbyn lefelau cynyddol o ordewdra, meddai Elin Jones.
Mae cynlluniau Plaid Cymru i gyflwyno treth o 20% ar ddiodydd melys yn cael eu hamlinellu mewn papur, ar ôl i’r arweinydd Leanne Wood, ddatgan bwriad i gyflwyno’r dreth yn ystod cynhadledd y blaid ym mis Hydref.
Mae trethi o’r fath eisoes yn bodoli yn nifer o daleithiau America a gwledydd eraill.
‘Problem fawr’
“Y cynnydd yn swm y siwgr sy’n cael ei fwyta a’i yfed yw un o’r problemau mwyaf rydym yn wynebu ar hyn o bryd mewn iechyd cyhoeddus,” meddai Elin Jones.
“Yng Nghymru, mae gennym rai o’r cyfraddau uchaf o orfwyta siwgr ac o ordewdra, felly rhaid i ni fod ar flaen y gad wrth drin y materion hyn.
“Ar draws hen ardaloedd glofaol y de, mae dros 60% o bobl dros bwysau, felly mae’n briodol i ni weithredu er lles iechyd y cyhoedd.
“Wrth gwrs, mae gennym oll fel unigolion ran mewn rheoli ein diet a’n harferion ein hunain, ond mae gan y wladwriaeth ran hefyd i reoleiddio ac atal ymgyrchoedd masnachol i gael y cyhoedd i gymryd mwy o siwgr.
“Gallai Treth Bop Plaid Cymru leihau faint o ddiodydd llawn siwgr a chalorïau gwag a gymerir, ac ar yr un pryd, gallai gynhyrchu arian pwysig i’w fuddsoddi er mwyn sicrhau fod ein gwasanaeth iechyd yn ddigon deinamig ac yn meddu ar ddigon o adnoddau i drin y problemau mae’n wynebu.”
Does dim manylion am ba ddiodydd penodol fyddai’n cael eu trethu ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Ar gyfartaledd, mae meddyg yn costio £83,000 y flwyddyn felly os yw’r Dreth Bop am weithio, fe fyddai’n rhaid i bobol Cymru yfed mwy na 135 litr o ddiod siwgr yr un er mwyn cyflogi 1,000 o feddygon ychwanegol.
“Mae Plaid yn dweud bod y dreth am daclo’r cynnydd mewn gordewdra ond mae’r honiad hwnnw yn eithaf tenau wrth ystyried y risg go iawn sydd wrth i’r cyhoedd yfed galwyni o bop bob blwyddyn.”