Matthew Rhys
Yr actor byd enwog Matthew Rhys fydd llysgennad sioe gerdd newydd sy’n cael ei threfnu ar y cyd rhwng  Urdd Gobaith Cymru â Clwyd Theatr Cymru.

I ddathlu 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf ymfudo i Batagonia, bydd y cynhyrchiad yn portreadu’r siwrne ar y Mimosa yn 1865.

Fe fydd cyfle i 15 o bobol ifanc o Gymru sydd rhwng 16 a 21 oed, a phump o Batagonia, gymryd rhan yn y cynhyrchiad a fydd yn cael ei berfformio y flwyddyn nesaf.

‘Cyfle amhrisiadwy’

“Mae’n fraint i fod yn llysgennad y cynllun yma sy’n cynnig cyfleodd amhrisiadwy i bobol ifanc Cymru a Phatagonia,” meddai Matthew Rhys.

“Mae Patagonia yn agos iawn at fy nghalon ac rwy wedi treulio sawl wythnos yno dros y blynyddoedd diwethaf yn cwrdd â chlywed mwy am hanesion trigolion y wlad, mae’n wych bod aelodau’r Urdd yn cael y cyfle i bortreadu’r hanes pwysig o 150 o flynyddoedd yn ôl.”

Ychwanegodd Siân Rogers, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned Gogledd Cymru’r Urdd:  “Bydd y criw lwcus yn cael y cyfle unigryw i weithio gyda thîm creadigol proffesiynol dan arweiniad Tim Baker i greu cynhyrchiad cyfrwng y Gymraeg a fydd yn cael ei lwyfannu am y tro cyntaf yng Nghymru fis Awst 2015 ac yna allan ym Mhatagonia.”

“Bydd clyweliadau ddiwedd yr Haf ac yna byddwn yn penderfynu ar y 15 yn fuan yn yr Hydref cyn cychwyn ar y cynhyrchiad. Gyda dim ond lle i bymtheg o Gymru i gael eu dewis ar gyfer y cynhyrchiad dwi’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni i gael ffurflen gais.”

Bydd y cynhyrchiad yn seiliedig ar waith cyfarwyddwr y cynllun Tim Baker o “The Spirit of the Mimosa” a “Patagonia – Yr Hirdaith/The Long Journey.”