Cig oen
Mae trafodaethau am allforio Cig Oen Cymreig i’r Unol Daleithiau, fyddai’n werth tua £20 miliwn y flwyddyn i fasnachwyr, yn cael eu cynnal yn Washington yr wythnos yma.

Mae Gweinidog Amgylchedd Defra, Owen Patterson, yn y brif ddinas i drafod gyda swyddogion, yn dilyn ymweliad arall gan Hybu Cig Cymru ym mis Ionawr.

“Mae’r buddion fyddai’n gallu dod i Gymru yn anferth ac mae HCC yn amcangyfrif y gall allforio Cig Cymreig fod werth £20 miliwn y flwyddyn i’n ffermwyr a’r cwmnïau prosesu,” meddai  Laura Pickup, Rheolwr Datblygu Marchnad HCC.

Mae’r mudiad yn gobeithio y bydd cyfyngiadau ar allforio Cig Cymreig i’r Unol Daleithiau yn cael eu codi fel rhan o gytundeb EU-UD, sydd wrthi’n cael ei drafod.