Peter Hain
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru yn honni bod y Tywysog Charles wedi ceisio dwyn pwysau ar Lywodraeth Cymru ar faterion ym maes iechyd.

Fe ddaeth sylwadau Peter Hain ar raglen The Sunday Supplement ar Radio 4 heddiw, gan honni fod y Tywysog Charles am i’r weinyddiaeth ym Mae Caerdydd fabwysiadu polisi oedd, ar y pryd, yn cael ei dreialu yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r sylwadau yn cyfeirio’n ôl i fis Chwefror 2007, pan oedd Peter Hain yn Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, ac wedi cyflwyno cynllun peilot a allai weld mwy o driniaethau amgen yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd yno.

Yn ôl Peter Hain, fe geisiodd y Tywysog “berswadio Llywodraeth Cymru i wneud yr un fath”, gan gyfeirio’n benodol at driniaethau fel “aciwbigo, triniaeth maeth, pethau fel yna…”

Hefyd, yn ôl Peter Hain, roedd y Tywysog Charles wedi ceisio rhoi pwysau arno yntau i berswadio Llywodraeth Cymru ar faterion eraill – roedd hynny pan oedd ef ei hun newydd gael ei benodi’n Ysgrifennydd Cymru.